Safle beddrod Neolithig, Crughywel
Wrth ymyl ffordd yr A40 mae olion gweladwy beddrod claddu Neolithig a godwyd tua 3750CC ar ben olion anheddiad cynharach. Os ydych chi newydd sganio'r codau QR wrth y fynedfa i dir Y Faenor (cyn-gartref George Everest), cerddwch bellter byr tua'r gorllewin i weld y cerrig.
Roedd y beddrod yn cynnwys pedair siambr y tu mewn i garnedd fawr, a oedd yn ffurfio twmpath siâp lletem 45 metr o hyd. Roedd darnau yn arwain i mewn i bob siambr o ochrau'r twmpath – cynllun a geir mewn beddrodau mewn mannau eraill ym Mannau Brycheiniog ac yn y Cotswolds. Tynnwyd y slab cerrig a doeodd un o siambrau'r beddrod i'w archwilio’n archeolegol ym 1804.
Cloddiodd archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys y safle yn 1977-78, pan ail-aliniwyd yr A40 ychydig i'r de. Cyn hynny roedd y ffordd yn gorwedd ar ben ymylon gorllewinol a gogleddol y bedd.
Mae YACP yn credu bod y beddrod wedi cael ei ddefnyddio am tua 500 mlynedd fel man claddu cymunedol. Ni ddaethpwyd o hyd i weddillion dynol yn ystod cloddiad y 1970au, ond mae'n bosibl iddynt cael eu symud yn gynharach, e.e. yn 1804. Darganfuwyd pennau saethau Neolithig ac offer cerrig caboledig.
Yn y pridd o dan y garnedd, daeth archeolegwyr o hyd i bwyntiau fflint, neu ficrolithau, sy'n awgrymu bod pobl yn defnyddio'r safle tua 5900CC i tua 5600CC. Roedd olion diweddarach, gan gynnwys olion strwythur pren, yn dangos bod anheddiad bychan yma cyn codi'r beddrod. Roedd grawnfwydydd a ganfuwyd yn y pridd yn dystiolaeth o ffermio cynnar.
Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: NP8 1SE Gweld Map Lleoliad