Hen felin flawd, Abergwyngregyn
Yr adeilad hwn, sydd bellach yn gartref i gaffi a redir gan y gymuned, oedd melin ŷd y pentref yn wreiddiol. Cafodd y peiriannau eu pweru gan olwyn ddŵr ar ochr ogledd-ddwyreiniol yr adeilad.
Fe ddargyfeiriodd llifddor ddŵr o'r afon tua 500 metr i'r de-ddwyrain o'r felin. Mae rhan olaf y bynfach (leat) cyn y felin i'w gweld o hyd, wrth ochr y ffordd.
Mae'n debyg bod melin flawd wedi bod yma neu gerllaw ers yr Oesoedd Canol, a gysylltir o bosibl â llys tywysogion Cymru yn Abergwyngregyn.
Mae'r darlun cynharaf o'r felin (dde) yn dangos y felin fel yr oedd tua 1820, gyda bwthyn gerllaw o'r enw Llerpwll ('Lle'r Pwll'). Yn y 18fed ganrif roedd y rhan fwyaf o bentref Abergwyngregyn yn eiddo i Ystâd Bulkeley. Trosglwyddwyd i Ystâd y Penrhyn yng nghanol y 19eg ganrif ac fe'i ehangwyd, i'r adeilad a welwn heddiw, mae'n debyg. Dangosir yr olwyn yn y llun isod, gan yr artist Fictoraidd Henry Harper.
Ym 1850 cymerwyd prydles y felin drosodd gan Ellis Jones & Co, adeiladwyr llongau a masnachwyr Bangor. Galluogodd hyn i'r cwmni gyflenwi "blawd cartref" yn ychwanegol at ei stoc arferol o flawd Saesnig, Gwyddelig a Ffrengig.
Cafodd John Roberts o felin Aber ei erlyn yn 1851 am beidio arddangos ei enw ar ei drol. Fe wnaeth yr ynadon ei ryddhau gyda rhybudd. Bu John Thomas, sydd hefyd o felin Aber, yn llai ffodus yn 1866 pan gafodd ddirwy am ymddygiad meddw ac afreolus ym mhentref Aber ar fore a phrynhawn.
Cwympodd y felin yn segur erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1925 cafodd y felin, gan gynnwys ei olwyn ddŵr, ei siafftiau a'i gyrianau, ei chynnwys yn y "Sel Fawr", pan roddodd Ystâd y Penrhyn y rhan fwyaf o’u heiddo yn y pentref ar werth. Ni werthodd y Felin, ac yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i Glwb Dynion Ifanc Aber, elusen oedd yn rhedeg clwb snwcer yma tan tua 2001. Yn 2002 sefydlwyd Cwmni Adfywio Abergwyngregyn a phrynodd yr adeilad i'w ailddatblygu fel caffi, ystafell gymunedol a chlwb snwcer.
With thanks to Hywel Thomas, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL33 0LP Gweld Map Lleoliad
Gwefan Caffi Hen Felin (Facebook)