Safleoedd diwydiannol Wiseman’s Bridge

acc-logoPan ewch chi am dro ar hyd y traeth rhwng Wiseman’s Bridge a Llanrhath, chwiliwch am olion cloddio gan gynnwys mynedfeydd i dwneli a gafodd eu cloddio dan y clogwyni wrth chwilio am fwynau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd min y môr wedi’i rannu’n bedwar prif “batch”. Dyma hen derm cyfreithiol ar gyfer darn o dir ac yn yr achos hwn yn cynrychioli llain sy’n cynnwys dyddodion. The Bridge oedd y clwt agosaf at Wiseman’s Bridge ac wedyn Lloyd’s neu Rook’s Nest. Roedd clytiau Crickdam a’r Burrows ger Temple Bar yn Amroth.

Cyn agor Grove Colliery, Stepaside, yn 1840 roedd mwyn haearn yn cael ei gloddio o’r clogwyn ar ymyl y traeth i’w lwytho ar gychod ar y traeth a’i gludo i harbwr Pen-bre. Roedd dynion, menywod a phlant wrthi a byddai llwythi sylweddol o gynnyrch y cloddio wedi’i wasgar ar hyd y traeth. Byddai glo carreg o Stepaside yn cael ei lwytho i gychod yn y fan hon yn ogystal.

Wedi agor Grove Colliery, byddai cynnyrch y cloddio yn cael ei gludo drwy’r twneli o glytiau Bridge a Crickdam at y rheilffordd newydd yn Wiseman’s Bridge. Y Dramway oedd yr enw ar y rheilffordd a oedd yn ddiweddarch yn cysylltu’r gwaith haearn a Grove Colliery i borthladd newydd Saundersfoot gan dramwyo ar hyd twneli y gellir bellach gerdded drwyddyn nhw.

Cyn adeiladu’r Dramway, ceisiwyd addasu’r nant yn y fan hon i ffurfio camlas lywiadawy, ond roedd y graddiant yn rhy serth. Mae’r nant yn syth mewn ambell fan rhwng waliau cerrig – olion camlas na chafodd ei chwblhau.

Ford’s Lake yw enw’r nant. Mae ‘lake’ yn gyffredin yn Ne Sir Benfro i ddynodi dŵr rhedegog.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, penodwyd John Henry Mathias, tafarnwr y Wiseman’s Bridge Inn (neu Jac y Bridge) yn wyliwr y glannau oherwydd ei wybodaeth leol. Er bod yr holl ardal wedi’i hynysu am resymau diogelwch a chyrffiw mewn grym o ddeg o’r gloch, roedd Jac wedi ei eithrio a chrwydrai fel y mynnai. Roedd aelodau’r fyddin wedi’u gwahardd rhag yfed alcohol ond am swllt a chwech caent eu gwala a’u gweddill – ham ac wyau a bara saim a phastai afalau. Byddai Jac yn eu difyrru â chwedlau am ysbryd mynach a grwydrai’r twneli rhwng Saundersfoot a Wiseman’s Bridge. Yn ddiweddarach maentumiai fod ei ferch wedi gweini ar Winston Churchill yn y dafarn yn ystod ymweliad honedig â’r ardal yn 1943. Does yr un cofnod swyddogol fod y Prif Weinidog wedi galw heibio yn ystod y rhyfel.

Ym mis Gorffennaf 1943 gwnaed defnydd o’r traeth ar gyfer Ymarfer Jantzen ymarfer i baratoi am gyrch D-Day.

Diolch i Mark Harvey

Cod post: SA69 9AU    Gweler y Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button