Yr hen wylfan, Ynys Lawd

Part Tirwedd Holy IslandMae rhyw gymaint o ddyfalu ynghylch tarddiad yr adeilad amlwg hwn sy’n edrych drosodd at oleudy Ynys Lawd. Mae’n bosibl iawn ei fod wedi’i ddefnyddio fel gwylfan gwylwyr y glannau gyda golygfeydd panoramig dros Fôr Iwerddon – y man gwylio perffaith i wylio am longau mewn trafferth.

Old photo of Holyhead Coast Watching ServiceDengys lluniau o tua adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gytiau o faint tebyg, gyda’r un math o do, yn cael eu defnyddio gan Wasanaeth Gwylio’r Glannau, dan orchymyn yr Is-gapten Pearson o Gartre’r Gwyliedydd, Caergybi. Dengys y llun uchaf, trwy garedigrwydd Amgueddfa Forwrol Caergybi, un o'r cytiau a ddefnyddir gan y gwasanaeth, gyda’r Is-gapten Pearson ar y dde.

Yn ddiweddarach mae'n debyg bod yr adeilad yn Ynys Lawd yn rhan o osodiad radar milwrol o'r Ail Ryfel Byd. Mae radar yn defnyddio tonnau radio i ganfod amrediad, ongl a chyflymder gwrthrych sy'n symud. Er mai newydd iawn oedd o yn y 1940au cynnar, ni ellir diystyru ei bwysigrwydd gyda’r ymdrech yn ystod y rhyfel.

Ym Mynydd Twr, adeiladwyd gorsaf radar Chain Home Low ym 1941 i ganfod ysbeilwyr Almaenig yn yr awyr ac ar y môr. Mae padiau concrit a fyddai wedi cynnal coesau’r mast i’w gweld o hyd yn frith o amgylch y grug. Gan weithio gyda gorsafoedd radar eraill ar Ynys Môn ac ar draws Gogledd Cymru, gellid monitro'r arfordir cyfan. System canfod rhybudd cynnar oedd y system.

Aerial photo of South Stack in 1947O flaen yr wylfan hon mae plât mowntio metel mawr - a ddefnyddir yn ôl pob tebyg ar gyfer erial - a gerllaw mae olion lloches cyrch awyr, y byddai milwyr wedi'i defnyddio pe byddid wedi ymosod ar yr orsaf radar.

Roedd Mynydd Twr mor bwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel nad oedd y cyhoedd yn cael mentro’n agos ato. Paentiwyd goleudy Ynys Lawd yn lliw tywyll a diffoddwyd y golau. Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos Ynys Lawd o uwchben y môr. Mae lleoliad yr wylfan uwchben ac i'r dde o'r goleudy.

 Gwnaeth Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi waith cadwraeth ar yr hen wylfan yn 2023.

Diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa 'Home Front', Llandudno, ac i Barry Hillier

View Location Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button