Yr Hen Farchnad a’r Clwb Ceidwadol, Caernarfon

Adeiladwyd yr adeilad mawr ar gornel Stryd y Farchned  a’r Stryd Fawr yn wreiddiol fel neuadd farchnad, c.1820. Codwyd ystafelloedd newydd ar gyfer Clwb Ceidwadol y Gweithwyr uwchben y farchnad yn 1886.

Yn y canol oesoedd, safai croes garreg Gristnogol ar y groesffordd yma. Roedd neuadd y dref yma hefyd, ar yr un safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach ar gyfer y farchnad. Adeiladwyd neuadd dref newydd uwchben Porth y Dwyrain yn y 1760au ac roedd yr un gynharach yn adfail am flynyddoedd lawer.

Defnyddiwyd neuadd y farchnad i werthu cig. Roedd yr agoriadau bwaog (sydd bellach wedi'u llenwi) yn darparu awyru. Byddai wedi bod yn anhylan gwerthu cig mewn adeiladau caeedig cyn dyfeisio rheweiddio.

Roedd ystafelloedd uwchben y farchnad yn cael eu defnyddio ar wahanol adegau ar gyfer ysgol, depo arfau a banc cynilo. Cyn hir aeth y Clwb Ceidwadol, a sefydlwyd yn 1871, yn rhy fawr i'r ystafelloedd. Roedd yr aelodaeth wedi cynyddu i fwy na 600 o aelodau erbyn 1886, pan ganiataodd teulu Assheton Smith o Faenol, Bangor, adeiladu llawr arall a chodi'r ystafelloedd gwreiddiol yn uwch.

Y pensaer lleol Arthur Ingleton ddyluniodd y newidiadau. Gosodwyd siafft awyru, o nenfwd pinwydd newydd neuadd y farchnad i’r to. Roedd y llawr uchaf yn cynnwys neuadd ymgynnull gyda lle i tua 700 o bobl a golygfeydd ar draws y Fenai. Cynhaliwyd cyngherddau, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill yno. Ar yr ail lawr roedd ystafelloedd darllen ac ysmygu, byrddau biliards, ystafell bwyllgora a chyfleusterau eraill.

Roedd y digwyddiad agoriadol yn cynnwys araith gan y bargyfreithiwr Edmund Swetenham, a etholwyd yn ddiweddar yn AS Ceidwadol dros Fwrdeistrefi Carnarfon (yn cwmpasu Caernarfon, Bangor, Conwy, Criccieth, Pwllheli a Nefyn). Cyn iddo gael ei ethol, bu gan yr etholaeth AS Rhyddfrydol am dros 20 mlynedd. Bu farw ym 1890, gan sbarduno is-etholiad lle cafodd yr ymgeisydd Torïaidd Ellis Nanney ei guro o drwch blewyn gan y Rhyddfrydwr David Lloyd George, y darpar Brif Weinidog.

Adnewyddwyd yr adeilad cyn i Jac y Do – bar, siop boteli a lleoliad gig – agor ar y llawr gwaelod ym mis Awst 2024.

Cod post: LL55 1RN    Map

Gwefan Jac y Do