Cyn dwneli rheilffordd a gwersyll carcharorion rhyfel, Faenol, Bangor

button-theme-pow button-theme-crime

Yma mae ffordd Parc Menai yn mynd dros hen lwybr rheilffordd Bangor i Gaernarfon. I'r de mae'r dau dwnnel rheilffordd, ac uwchlaw hynny roedd gwersyll carcharorion rhyfel yn y 1940au. Gwelir y twneli a’r gwersyll yng nghanol y llun o’r awyr o 1945, gyda diolch i Lywodraeth Cymru.

Aerial photo of Faenol tunnel and camp in 1945Pan agorodd y rheilffordd, i ddechrau mor bell i'r de ag Y Felinheli, ym 1852 dim ond un trac oedd. Twnnel “Vaynol", 455 metr o hyd, oedd yr eitem fwyaf o beirianneg sifil ar y llwybr. Cwblhawyd ail dwnnel ym 1874 fel bod gan y llinell un trac ar gyfer pob cyfeiriad. Caeodd y rheilffordd yn gynnar yn y 1970au.

Yn 2012 daeth yr heddlu o hyd i fferm ganabis fawr yn y twneli, a oedd yn gallu cynhyrchu gwerth £1.5m o'r cyffur anghyfreithlon y flwyddyn. Carcharwyd pedwar dyn. Roedd y weithred wedi cychwyn fel fferm fadarch gyfreithlon. Gosodwyd offer trydanol cymhleth, camerâu diogelwch ac offer awyru ar gyfer cynhyrchu canabis.

Uwchben y twneli mae warws a feddiannwyd gan The Book People, cyn i'r adwerthwr llyfrau ar-lein fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Rhagfyr 2019. Mae'r warws ar safle gwersyll lle cadwyd carcharorion rhyfel o'r Eidal wrth weithio ar ffermydd lleol. Erbyn Awst 1945, roedd y gwersyll wedi'i neilltuo ar gyfer Almaenwyr.

Gohiriwyd dychwelyd carcharorion rhyfel yr Almaen tan 1947-1948. Roedd gan y gwersyll dri chwt Nissen, pob un yn gartref i 20 o garcharorion. Roedd milwyr Prydain yn gwarchod y safle. Ni fu erioed ymgais i ddianc.

Caniatawyd copïau o bapurau newydd yr Almaen i'r carcharorion ac unwaith bob pythefnos buont yn gwylio ffilmiau Almaeneg yn y neuadd gymunedol yn Y Felinheli. Ni chaniatawyd iddynt weithio ar yr un ffermydd am fwy nag wythnos, i'w hatal rhag dod yn rhy gyfarwydd â'r teuluoedd ffermio.

Portrait of Richard StuhlfelderYmhlith y carcharorion roedd Richard Stuhlfelder (yn y llun), cyn awyrfilwr (“paratrooper”) a ddewisodd beidio â dychwelyd i'r Almaen. Roedd ei rieni'n byw yn Neuoelsnitz, o dan y gyfundrefn Gomiwnyddol yn Nwyrain yr Almaen. Ym 1949 priododd Marjorie Jane Vaughan o Landudno. Magodd y cwpl deulu yn Y Felinheli, lle bu Richard yn gweithio i gigydd lleol am 36 mlynedd. Roedd wedi bod yn gigydd cyn y rhyfel.

Ymsefydlodd carcharor arall, Heinz Nowack, yn lleol hefyd a gweithio ar fferm ger Caernarfon tan y 1980au.

Gyda diolch i Gareth Roberts o Menter Fachwen, ac i Chris Stuhlfelder

Cod post: LL57 4FA    Map