Hen byllau mwynglawdd arian, Carreg Eilfyw, Solfach
Mae’r pyllau sydd wedi gordyfu yn yr ardal hon yn weddillion ymdrechion i gloddio arian. I'r gogledd o lwybr yr arfordir ceir olion siambrau claddu cynhanesyddol (gweler isod).
Gwelwyd olion arian yn y clogwyni yma yn yr 16eg ganrif. Yn 1811 nododd yr hanesydd Richard Fenton fod "sawl ceuffordd (adit) a thystiolaeth arall o weithiau a fu unwaith yn parhau yno i chwilio am fwyngloddiau arian". (Adit yw mynediad bron yn llorweddol i fwynglawdd.) Cofnododd hefyd fod John Voyle, a oedd yn berchen ar lawer o'r tir yn yr ardal hon yn 1623, a'i fab-yng-nghyfraith Syr Thomas Canon wedi prydlesu unrhyw fetelau y gallent ddod o hyd iddynt yma o'r Goron (ystâd y Frenhines Elisabeth I). Y fargen oedd y byddai'r Goron yn derbyn hanner unrhyw elw.
Dywedodd Richard Fenton hefyd fod y tirfeddiannwr, Thomas Williams, yn ystod ei oes ei hun hefyd wedi ceisio dod o hyd i arian yn y ddaear yma ond heb lwyddiant.
Wrth ymyl Fferm St Elvis i'r gogledd safai eglwys ganoloesol (sydd bellach wedi'i dymchwel) a gysegrwyd i'r mynach Gwyddelig St Eilfyw (St Elvis), a fedyddiodd Dewi Sant, ein nawddsant. Mae bedyddfaen yr eglwys o'r 12fed ganrif bellach yn Eglwys Sant Aeddan yn Solfach. Cafodd piler gyda chroes gerfiedig o'r 7fed neu'r 8fed ganrif ei symud i eglwys Sant Aeddan yn 1936, ar ôl ei ddarganfod ar Fferm St Elvis – yn cael ei defnyddio fel postyn giât!
Roedd yr eglwys ar safle o bwys i bobl cynhanesyddol. Mewn lluniau a dynnwyd o’r awyr yn ystod tymor sych gwelwyd marciau cnydau yn dynodi hen ffosydd coll o amgylch y safle (mae'r planhigion yn sychu ar gyfradd gwahanol yno).
Wrth ymyl wal y fynwent mae dwy garreg gap – slabiau enfawr oedd yn gorffwys ar gerrig unionsyth i ffurfio toeau siambrau claddu. Efallai eu bod wedi ffurfio rhan o un twmpath. Dinistriwyd tystiolaeth archeolegol pan dynnodd tirfeddiannwr Fictoraidd ddwy goes un o'r cromlechau, gan ddefnyddio ffrwydron i'w dadleoli! Mae'r llun gan Philip Lees yn dangos y cerrig yn 2022.
Ymhlith y ffynonellau mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
![]() |
![]() ![]() |