Postyn Angori Basn Hirgrwn, Bae Caerdydd
Roedd y postyn angori yma wedi’i guddio y tu mewn i warws Fictoraidd am ddegawdau. Pan gafodd ei ddatguddio roedd wedi’i forthwylio i’r ddaear. Roedd yn berygl baglu cyn iddo gael ei symud a’i adfer.
Roedd yn un o nifer o fannau angori ar gyfer diogelu llongau yn y basn hirgrwn – llongau oedd yn aros am fynediad i Ddoc Gorllewinol Bute neu allanfa i'r môr. Codwyd lefel y dŵr yn y basn i alluogi llongau i fynd i mewn i'r doc, lle'r oedd y dŵr ar lefel gyson. Mae’r basn a’r doc wedi’u llenwi, ond mae pen waliau’r basn hirgrwn bellach yn nodi’r man agored o’r enw Plas Roald Dahl.

Golygfa o’r awyr o fasn hirgrwn ac adeilad y Pierhead yn 1929,
diolch i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’i gwefan Coflein
Gosodwyd y postyn angori degawdau ar ôl i Ddoc Gorllewinol Bute agor yn 1839. Roedd pyst haearn gwreiddiol y basn yn agos at wal y basn ac roedd ganddynt bennau crwn.
Cafodd y dyluniad gwell a welwn yma ei wneud yn wastad ar un ochr i’r cap. Roedd yr ymyl gwastad yn wynebu’r dŵr ac yn rhoi mwy o ryddid i ongl y rhaff newid wrth i’r llong gael ei chodi. Roedd y pyst diweddarach hyn hefyd wedi’u gosod ymhellach yn ôl, 9.5 metr o’r ymyl; roedd hyd hirach y rhaff angori yn lleihau graddiant y rhaff pan oedd y llong ar ei huchaf.
Roedd pwysigrwydd y doc wedi lleihau’n sylweddol erbyn diwedd y 19eg ganrif, pan adeiladwyr warws Dublin & Liverpool Steam Packet Company yn agos i ymyl ogledd-ddwyreiniol y basn hirgrwn. Codwyr yr adeilad dros y postyn angori. Gallwch weld y warws ar ochr chwith y basn hirgrwn yn y llun o’r awyr, sydd o Gasgliad Awyrluniau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Ar adeg anhysbys, fe orfodwyd y postyn i’r ddaear fel mai dim ond ei goron oedd yn dangos uwchben yr wyneb (llun is). Fe barhaodd i wthio allan o’r ddaear ar ôl i’r ardal gael ei thrawsnewid yn ofod cyhoeddus ger Canolfan Mileniwm Cymru. Roedd yn baglu cerddwyr a beicwyr anwyliadwrus, ac yn 2024 fe dynnwyd y postyn gan Ganolfan Mileniwm Cymru, ac fe’i hadferwyd a’i harddangoswyd yma – mae’r fideo isod yn dangos y postyn yn dod allan o’r ddaear.
Sylwch ar yr adenydd hirsgwar bob ochr i’r coesyn. Roeddent ymhell o dan yr wyneb ac yn helpu i gadw’r postyn yn syth pan fyddai rhaffau llongau yn tynnu arno. Roedd yna hefyd angor pren a oedd yn mynd trwy dwll ar waelod y postyn.
Mae dau bostyn tebyg (heb y twll ar gyfer yr angor pren) wedi’u harddangos wrth ymyl Rhodfa Lloyd George, ger y gyffordd â Heol Letton.
Cod post: CF10 5AL Gweler map o leoliad y postyn
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |