Delw Owain Glyndŵr, Corwen
Delw Owain Glyndŵr, Corwen
Mae’r cerflun efydd maint llawn hwn yn dangos Owain Glyndŵr ar ei geffyl. Gosodwyd yn sgwâr Corwen yn 2007, ar draws y ffordd o westy hanesyddol yr Owain Glyndŵr. Saif ar blinth wyth tunnell o wenithfaen caboledig. Y cerflunydd oedd Colin Spofforth o Gaer.
Mae'n debyg i Owain Glyndŵr gael ei eni yn y 1350au (mae'r plinth yn rhoi 1349). Ei dad oedd Gruffudd Fychan, arglwydd Glyndyfrdwy a Chynllaith. Mae Glyndyfrdwy 7km i'r dwyrain o Gorwen ar hyd yr A5.
Roedd ei fam Elen yn hanu o deulu tiriog yng Ngheredigion. Uchelwr nodweddiadol oedd yr Owain ifanc, a chafodd ei foesau eu sgleinio yn yr Inns of Court yn Llundain. Roedd ganddo gartrefi yng Ngharrog, ger Corwen, a Sycharth ym Mhowys (ger Croesoswallt).
Bu Owain yn ymladd gyda'r Saeson yn erbyn yr Albanwyr a'r Iseldirwyr cyn i'r Brenin Rhisiart II gael ei gipio ym Mae Colwyn ym 1399 a'i ddiorseddu gan gefnogwyr Henry Bolingbroke, a ddaeth wedyn yn Harri IV.
Nid yw’n glir a effeithiodd y newid brenhinol ar argoelion yr Owain Glyndŵr canol oed. Tua'r adeg hon fe ddechreuodd ddadlau â chymydog, y Barwn Reginald Grey o Ruthun. Ym Medi 1400 ymosododd Owain ar Ruthun, ac wedyn daeth cyrchoedd ar fwrdeistrefi lleol eraill. Datblygodd hyn yn gyflym i wrthryfel ar raddfa lawn, wrth i Gymry weld cyfle i daro’n ôl at ymsefydlwyr Seisnig a’r breintiau a gawsant.
Derbyniodd y gwrthryfel gymorth milwrol gan Ffrainc a chynghreiriaid pwerus o Loegr. Ym 1404, bu cenhadon o dramor a’r Alban yn gwylio coroni Owain yn Dywysog Cymru, mewn senedd a gynhaliwyd ym Machynlleth.
Gyda'r rhan fwyaf o Gymru dan ei reolaeth, ym 1405 lluniodd Glyndŵr a'i gynghreiriaid gytundeb i ddisodli’r brenin a rhannu'r wlad yn dair, gyda thalp sylweddol o Loegr wedi'i ychwanegu at Gymru. Fodd bynnag, gostyngodd cefnogaeth y Ffrancwyr, collodd y gwrthryfelwyr dir yng Nghymru ac yn 1409 cipiodd y Saeson Gastell Harlech – a fu’n gadarnle i Glyndŵr. Ni ddaliwyd Glyndŵr erioed, a thybir iddo farw wrth guddio c.1415.
Cod post: LL21 0DE Map
![]() |
![]() ![]() |