Penceunant Isaf, ger Llanberis
Penceunant Isaf, ger Llanberis
Adeiladwyd gan Stad y Faenol, prif dirfeddiannwr ochr yma’r Wyddfa, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif fel cartref i un o’i coedwigwyr. Yn awr yn gaffi ar ochr Llwybr prysur Llanberis i gopa’r Wyddfa.
Mae Penceunant yn disgrifio’r ardal yma nepell o raeadr y Ceunant Mawr i’r dde o’r ffordd i fyny. Enw’r ardal ar fapiau Fictorianaidd oedd Pen-y-ceunant. Adeiladwyd tŷ arall, sef Penceunant Uchaf gan stad y Faenol ac felly dyna pam yr Isaf yn yr enw.
O bwll y Ceunant Mawr y peipwyd dŵr i’r Gilfach Ddu yn chwarel Dinorwig, yr ochr arall i’r dyffryn, i droi’r olwyn ddŵr enfawr yno oedd yn pweru peiriannau’r Gilfach.
Bu’r coedwigwr William Griffith yn byw yma o 1840. Fe fabwysiadodd gi a’i dilynodd o’r dafarn un noson a’i enwi’n Prince. Bu farw yn 1861 yn 52 oed.
Coedwigwr arall yma oedd Owen Williams. Cafwyd ei gorff ym mhwll y rhaeadr yn Nhachwedd 1887. Yn fuan daeth suon o anfadwaith ond fe ddywedodd y siarsiant heddlu nad oedd yna unrhyw olion o gythrwfl yn y safle. Cafwyd het Owen rhwng y tŷ a’r afon. Casgliad y rheithgor oedd iddo adael y ffordd yn y tywyllwch a disgyn yn ddamweiniol i’w farwolaeth. Awgrymwyd iddo ddisgyn yn ddamweiniol wrth chwilio am ei het yn y tywyllwch.
Fe werthodd Stad y Faenol eu tai yn Llanberis yn 1958 i’r trigolion gan fwyaf ac fe werthwyd y tŷ hwn. Bu’n gartref gwyliau tan i Feibion Glyndŵr ei losgi i’r llawr yn 1980au. Llosgwyd dros 200 o dai Haf rhwng 1979 a 1991 gan Feibion Glyndŵr. Roedd cartrefi gwyliau yn creu problemau cymdeithasol (fel y maent heddiw) drwy dorri allan gallu’r trigolion i fforddio tai a dod a llif o Saesneg i’r pentref.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 4UW Gweld Map Lleoliad