Magnelfa Penrhos, ger Caergybi
Y gred yw bod y strwythur hwn, ar hen stad Penrhos, wedi’i adeiladu’n amddiffynfa yn ystod rhyfeloedd Napoleon. Mae'n debyg bod strwythur y fagnelfa wedi'i ddefnyddio eto yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd fel man arsyllu.
Ym mis Mawrth 1802, llofnododd Prydain a Ffrainc Gytundeb Amiens wedi degawd o elyniaeth. Rhywbeth dros dro yn unig oedd yr heddwch. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach roedd y ddwy wlad yn rhyfela unwaith eto, wedi i Brydain gael ei gwylltio fwyfwy gan uchelgeisiau Ymerawdwr Ffrainc, Napoleon Bonaparte.
O’r herwydd, atgyfnerthwyd amddiffynfeydd arfordirol ar draws Gogledd Cymru a chredir bod y strwythur hwn yn fagnelfa ynnau yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Wrth edrych allan i Fae Penrhos, mae gan y wal hanner cylch wyth twll saethu y byddai gynnau morol wedi'u hyfforddi drwyddynt i ymosod ar y fflyd o Ffrainc, pe bai wedi ymddangos dros y gorwel.
Ar y pryd, roedd stad Penrhos yn eiddo i'r fforiwr Syr John Thomas Stanley (1735-1807), oedd wedi priodi â Margaret Owen, Penrhos. Roedd hi'n hanu o deulu sefydledig a dylanwadol o Fôn. Roedd John yn AS dros etholaeth Wiltshire yn y 1790au, ac aeth ar ymdaith i Wlad yr Iâ ym 1798.
Daethpwyd i adnabod ardal rynglanwol yr arfordir i'r de-ddwyrain o Benrhos fel y Stanley Sands. Fe’i croesir gan arglawdd Stanley a gwblhawyd ym 1823 ar gyfer ffordd gerbydau Thomas Telford o Lundain i Gaergybi.
Gwnaeth Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi waith cadwraeth ar y fagnelfa yn 2023.
![]() |
![]() ![]() |