Neuadd y Penrhyn, Bangor

Neuadd y Penrhyn, Tan y Fynwent, Ffordd Gwynedd

Codwyd yr adeilad yma fel neuadd i gynnal cyngherddau, gan ddefnyddio arian a roddwyd gan Arglwydd Penrhyn yn 1867 i ddathlu benblwydd ei fab hynaf yn un ar hugain oed. Mae’r adeilad wedi ei ddylunio yn null pensaernïol clasurol Eidalaidd a oedd yn ffasiynol yn nechrau ac yng nghanol yr 19eg ganrif.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd llogwyd y neuadd gan y BBC oddiar Gyngor y Ddinas i’w ddefnyddio gan ei Adran Adloniant. Yr oedd yr adran wedi ei ddatnwyo o Lundain i Fryste yn 1940 i osgoi’r bomio, ond yr oedd cynnydd yng nghyrchau bomio ar Fryste wedi achosi’r BBC i symud yr adran gyfan i Ogledd Cymru. Darlledwyd neges mewn côd gan y BBC yn cyfeirio at “gamel yn bod yn sal yn Sw Llundain” a oedd yn arwydd iddynt wneud y symudiad.

Darlledwyd un o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd ar y radio yn ystod y rhyfel, It’s That Man Again (ITMA), o Neuadd y Penrhyn. Seren y rhaglen oedd Tommy Handley ac yr oedd wedi i'w hysgrifennu gan Ted Kavanagh. Yr oedd cynulleidfa o dros 16 miliwn o bobl yn gwrando arni’n rheolaidd.Yr oedd ITMA yn rhaglen gomedi yn llawn jôcs cyfoes a dywediadau a ddaeth yn enwog drwy’r wlad, fel T.T.F.N (Ta Ta For Now!) Mrs Mopp. Rhaglen arall boblogaidd iawn a ddarlledwyd o Fangor oedd Music While You Work, darllediad hanner awr ddwywaith y diwrnod i weithwyr ffatri.

Yn ogystal â diddanwyr, daeth y BBC a llawer o staff gweinyddol o Lundain. Prynwyd Bron Castell (yr hen Ysgol St Winifred) yng ngwaelod y Stryd Fawr, oddi wrth y Cyngor am swm o £3,250 a daeth y safle yma’n ganolfan gweithredu ac yn gantîn i’r BBC.

Rhaid oedd canfod llety i staff y BBC yn y ddinas ond yr oedd hyn yn brin iawn oherwydd y nifer o filwyr a phlant noddedig (evacuees) oedd yno. Felly hawliodd y BBC dai ar Ynys Môn ac ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan. Nid oedd staff y BBC yn cael eu hesgusodi o ddyletswyddau Amddiffyn y Cyhoedd fel gwylio tân yn ystod y Rhyfel. Ymunodd llawer ac unedau o’r Gwarchodlu Cartref lleol neu Wasanaeth Gwirfoddol y Merched.

Heddiw mae Neuadd y Penrhyn yn cynnwys Siambr a Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno

Côd post: LL57 1DT    Map