Pentre Arms, Llangrannog
Pentre Arms, Llangrannog
Mae’r dafarn hon wedi nodweddu glan môr Llangrannnog ers oes Fictoria. Cafodd y bardd Dylan Thomas ei wahardd o’r dafarn am helpu ei hunan i ddiodydd y tu ôl i’r bar yma.
Yn 1861 roedd y dafarn yn gartref i Ann Griffiths, ei thri mab a’i thair merch. Roedd ei gŵr yn forwr.
Evan a Catherine Jenkins oedd yn cadw’r dafarn yn y 1800au a’r 1900au. Roedd ef yn berchen ar smack (cwch hwylio bychan) o’r enw Ocean. Drylliwyd y cwch ar y creigiau ger Aberteifi ar 3 Hydref 1895, ddiwrnod wedi iddo gario llwyth o gwlwm (peli o lwch glo oedd yn danwydd i’r odynnau calch) i Langrannog. Gadawodd heb lwyth, er mwyn cadw’r cwch ger Aberteifi dros y gaeaf. Cododd yn storom cyn i’r llanw godi digon i alluogi’r cwch bach i glirio bar yr aber. Dim ond criw o ddau oedd arni, y capten a morwr arall, a daethant i’r lan ym mad achub y cwch.
Un bore yn Rhagfyr 1917 cariwyd corff morwr o Norwy sef Karl Danvig Andersen i’r Pentre Arms. Un o griw o ddeunaw ar yr agerlong Nor oedd Andersen. Y diwrnod cynt am 3.15yh roedd taflegryn U-boat o’r Almaen wedi taro’r Nor, a gofrestiwyd yn Bergen, wrth iddi deithio’n wag o Caen (Ffrainc) i Glasgow. Cododd y llong danfor i’r wyneb ger un o fadau achub yr agerlong a holodd morwyr ar ei bwrdd am enw’r agerlong cyn diflannu.
Gofalodd y pentrefwyr am yr un ar bymtheg o forwyr a oroesodd (roedd un wedi marw yn y môr), gan eu cymryd i’w cartrefi a chynau tanau yn eu ‘stafelloedd gorau’ a dod o hyd i ddillad sych ar eu cyfer. Dyfarnodd cwest ar Karl, 28 oed, mai ‘marw o oerfel’ a wnaeth. Dywedir mai ei angladd yn eglwys Dewi Sant oedd y mwyaf a welwyd erioed yn Llangrannog.
Bu Dylan Thomas yn yfed yn y Pentre Arms un prynhawn gyda’i gyfaill Ira Jones. Roedd Jones yn un o arwyr y llu awyr a’i anturiaethau wedi ennill bri a phedair medal iddo (DSO, DFC, MC a MM). Daliwyd y ddau yn mynd â diodydd o’r tu ôl i’r bar. Cawsant eu troi allan yn ddiymdroi gan y landlord Tom Jones.
Roedd y dafarn yn hoff gyrchfan gan rai o feirdd a llenorion pennaf yr iaith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif gan gynnwys T. Llew Jones a Dic Jones.
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA44 6SP Map
![]() |
![]() ![]() |