Cromlech Pentre Ifan, Preseli
Mae'r gromlech Neolithig hon yn un o'r goreuon ym Mhrydain. Maint y capan mawr yw 5 metr o hyd a 2.4 metr o led. Mae chwe carreg unionsyth. Mae'r capan yn gorffwys ar dair ohonynt yn unig.
Mae'n debyg bod y cerrig wedi'u gorchuddio gan domen o bridd a/neu gerrig i ffurfio siambr gladdu o dan y maen capan. Mae'n bosib bod y siambr wedi cael ei defnyddio i gladdu cyrff pobl bwysig yn ystod y cyfnod Neolithig, a elwir hefyd yn Oes Newydd y Cerrig – dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd pobl ffermio am y tro cyntaf ym Mhrydain. Credir mai De-orllewin Cymru oedd un o'r ardaloedd cynharaf ym Mhrydain i gael ei ffermio. Hefyd, datblygodd pobl Neolithig gyllyll a bwyeill mwy gwydn gydag ymylon torri y gellid eu hail-finio.
Mae'r gromlech bellach yn heneb gofrestredig yng ngofal Cadw. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth ymweld, a fideo yn dangos sut y gallai'r safle fod wedi edrych yn wreiddiol.
Enw stad goediog, a oedd yn cynnwys y gromlech, yw Pentre Ifan. Mae fferm Pentre Ifan a 'Coed Pentre Evan' i'r gogledd.
Gwefan Cadw – gwybodaeth i ymwelwyr a fideo