Blocws ger Cofeb Skinner, Caergybi

Part Tirwedd Holy IslandMae’r strwythur hwn o gyfnod y rhyfel, sy’n adeilad rhestredig, yn grair o gyfnod pan oedd yn hollbwysig atal y gelyn rhag ymosod ar borthladd Caergybi.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Caergybi yn ganolfan lyngesol a sefydliad hyfforddi pwysig o'r enw HMS Bee. Roedd hefyd yn gartref i longau canfod ffrwydron Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd. Defnyddiwyd y porthladd gan longau'r Llynges Fasnachol a'r Llynges Frenhinol oedd ynghlwm wrth gonfoi'r Iwerydd, a gludai llwythi hanfodol rhwng America a Phrydain.

I amddiffyn y porthladd rhag ymosodiad posib, gosodwyd magnelfa o ynnau llyngesol a gwrth-awyrennau yn Llanfwrog i amddiffyn ceg yr harbwr. Yn y cyfleuster roedd goleuadau chwilio.

O gwmpas Caergybi ei hun, adeiladwyd cyfres o flocysau, gan gynnwys yr un yma ger Cofeb Capten Skinner. Edrychai dros yr Hen Harbwr a'r orsaf reilffordd.

Mae'r blocws yn grwn gyda wal chwythu i amddiffyn y fynedfa. Yn y muriau mae chwe thwll saethu ymledol y byddai milwyr yn tanio eu harfau ohonynt pe ceid ymosodiad. Mae dyluniad castellog i ben y blocws, fel ei fod yn ymddangos fel castell bach, efallai er mwyn cuddio oedran a phwrpas y blocws. Mae rhagor o enghreifftiau o'r math hwn o strwythur amddiffynnol i'w gweld o amgylch Trearddur. Y gred oedd bod y dyluniad hwn yn unigryw i Ynys Môn.

Diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa 'Home Front', Llandudno

Cod post: LL65 2JF    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button