Plas Dinas, Bontnewydd
Plas Dinas, Bontnewydd
Plasty hynafol sydd â chysylltiadau â'r teulu brenhinol yw Plas Dinas, sydd bellach yn westai. Saif i’r gorllewin o Lôn Las Eifion a Rheilffordd Ucheldir Cymru – mae’r bont dros y rheilffordd yn cario rhodfa Plas Dinas.
Mae rhan hynaf y plasty yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif. Ehangwyd yr adeilad yn 1653, yn ôl plac a ddarganfuwyd yn yr adeilad. Mae llythrennau blaen Thomas a Jane Williams ar y plac. Bu ei dad, Syr Thomas Williams, am gyfnod byr yn Siryf Sir Gaernarfon. Ymhlith y nodweddion sydd wedi goroesi o'r 17eg ganrif mae lle tân mawr sy'n cymryd wal orllewinol gyfan yr Ystafell Gun.
Ehangwyd y tŷ yn oes Fictoria. Roedd yn gartref i Owen Roberts, asiant tir i deulu cyfoethog Assheton Smith o'r Faenol, ger Bangor. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif roedd ei fab, Syr Owen Roberts, yn byw ym Mhlas Dinas ac ym Mharc Henley, Guildford. Bu Syr Owen, bargyfreithiwr, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1901. Yr oedd yn arloeswr ym myd addysg dechnegol a dadleuodd am fwy o gefnogaeth i ferched fynychu prifysgolion, yn enwedig i astudio'r gwyddorau. Bu hefyd yn cynorthwyo datblygiad diwydiannau tecstilau yn Swydd Efrog, a gwnaeth roddion sylweddol i'w hen ysgol yn y Bontnewydd.
Ar ei farwolaeth, yn 79 oed, yn 1915, trosglwyddwyd Plas Dinas i'w ferch, Margaret Elizabeth Armstrong-Jones. Roedd ei gŵr Robert yn ddarlithydd mewn meddygaeth seicolegol yn Ysbyty Bartholomew, Llundain. Cynghorodd y fyddin ar iechyd meddwl ac roedd yn Uwchgapten anrhydeddus yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.
Ym 1961 priododd ŵyr y cwpl, sef Antony Armstrong-Jones, y Dywysoges Margaret, chwaer y Frenhines Elizabeth II. Roedd yn adnabyddus fel yr Arglwydd Snowdon, ffotograffydd enwogion. Roedd hefyd yn ddylunydd, a helpodd i drefnu seremoni arwisgo’r Tywysog Siarl ym 1969 yng Nghastell Caernarfon. Bu’n gwnstabl y castell ers 1963.
Byddai ef a’r Dywysoges Margaret yn aros ym Mhlas Dinas yn aml. Yn ystod ei harhosiad cyntaf, ym mis Mai 1962, agorodd yn swyddogol ffatri Ferodo i'r gogledd o Gaernarfon ac ymwelodd â chwarel lechi Dinorwig. Claddwyd yr Arglwydd Snowdon yn Eglwys anghysbell Sant Baglan yn 2017.
Wrth y fynedfa i'r rhodfa mae porthdy Plas Dinas. Roedd y cae ar draws y lôn o'r porthdy yn gartref i wersyll carcharorion rhyfel yn y 1940au.
Cod post: LL54 7YF Map
![]() |
![]() ![]() |