Safle Glofa'r Parlwr Du, Talacre
Safle Glofa'r Parlwr Du, Talacre
Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio safle Glofa’r Parlwr Du (Point of Ayr Colliery yn Saesneg), a gaewyd yn 1996. Roedd y lofa yn agos iawn at y môr, a bu’n rhaid atal glowyr rhag mynd dan y ddaear yma yn ystod storm yn 1892 nes i’r llanw fynd ar drai – rhag ofn i’r môr arllwys i mewn i siafft y pwll!
Cloddiwyd glo ar hyd y rhan hon o'r arfordir am ganrifoedd. Agorodd Glofa’r Parlwr Du yn y 1880au mewn ardal o’r enw Parlwr Du. Cloddiwyd dwy siafft (tyllau fertigol) i gyrraedd gwythiennau glo o dan y môr. Daeth llongau at y lofa er mwyn cludo’r glo i borthladdoedd o amgylch Môr Iwerddon.
Agorwyd cilffyrdd rheilffordd ym mis Ebrill 1909. Gallai’r lofa wedyn gyflenwi glo am brisiau cystadleuol i lawer o leoedd, gan gynnwys gweddill Gogledd Cymru (a gyflenwir yn flaenorol o Swydd Stafford a Swydd Gaerhirfryn).
Mae'r awyrlun, diolch i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y lofa yn 1950. Daw o Gasgliad Aerofilms o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Bu llawer o ddamweiniau yn y lofa. Yn 1899 fe laddodd ffrwydrad y rheolwr Lewis Jenkins a'i ddirprwy Samuel Pearson, ill dau yn 46 oed. Roedden nhw wedi mynd o dan y ddaear gyda grŵp archwilio, yn dilyn ffrwydrad cynharach. Gadawodd Lewis weddw a thri o blant, Samuel saith o blant a gweddw.
Yn 1909 bu’n rhaid codi wal frics gau un o wythiennau glo mwyaf cynhyrchiol y lofa am fod y wythïen yn llosgi. Cafodd tua 150 o weithwyr eu diswyddo o ganlyniad.
Cafodd y lofa ei moderneiddio yn y 1950au gyda thrydedd siafft a thŷ injan newydd yn cynnwys offer weindio trydan, wedi'i bweru gan eneradur a losgai diesel neu fethan wedi'i bibellu o'r pwll. Parhaodd y lofa i ddefnyddio merlod pwll ar gyfer cludo nwyddau o dan y ddaear. Roeddent yn ymateb i orchmynion yn Gymraeg yn unig!
Yn y degawdau ar ôl y rhyfel, bu trenau yn cludo’r rhan fwyaf o'r glo i orsafoedd pŵer. Roedd glo yn cael ei naddu mwy na 400 metr o dan y môr, a hyd at 3km (1.9 milltir) i ffwrdd o'r siafftiau.
Mae rhan o safle'r lofa bellach yn gartref i derfynell sy'n derbyn nwy naturiol drwy bibell o Fae Lerpwl. Mae’r nwy yn cael ei bibellu i orsaf bŵer Cei Connah.
Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |