Goleudy’r Parlwr Du, ger Talacre
Goleudy’r Parlwr Du, ger Talacre
Mae’r goleudy ar y traeth ger Talacre wedi bod yn segur am dros 2.5 gwaith yn hirach nag oedd yn cael ei ddefnyddio! Fe'i hadeiladwyd yn 1776 mewn ymateb i longddrylliadau yn yr ardal, yn enwedig colli dwy fferi o Ddulyn lle bu farw mwy na 200 o bobl.
Roedd y goleudy yn nodi ceg aber Afon Dyfrdwy ar gyfer morwyr a oedd yn nesáu yn y tywyllwch o'r gogledd neu'r gorllewin. Nid oedd yn cynnwys golau ar gyfer morwyr a oedd yn gadael yr aber. Ailadeiladwyd y rhan uchaf yn yr 1820au cynnar, yn fuan ar ôl i'r strwythur ddod o dan reolaeth Trinity House (awdurdod goleudy Cymru a Lloegr hyd heddiw).
Disodlwyd y goleudy gan un newydd yn yr un lleoliad yn 1844. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhuddwyd ceidwad y goleudy o anwybyddu ergydion gwn a fflamau a daniwyd fel arwyddion trallod gan griw’r Mermaid, a ddrylliwyd ger y Parlwr Du mewn niwl. Gwrthodwyd y cyhuddiad a derbyniodd y ceidwad a chriw'r bad achub lleol wobrau am wasanaeth teilwng.
Mae goleudy 1844 wedi hen ddiflannu, ar ôl cael ei ddisodli ei hun yn 1883 gan oleulong wedi'i hangori yn yr aber. Yn 1882 honnwyd yn y llys fod y goleudy yn rhy bell i mewn i'r tir, ar ôl i agerlong fynd ar lawr tra roedd yn dechrau mordaith o Fostyn i Barrow-in-Furness gyda llwyth o haearn a glo.
Mae gan y goleudy gwreiddiol ychydig o oledd ond mae wedi gwrthsefyll stormydd di-ri yn y lleoliad agored hwn. Cafodd ei adfer yn yr 1990au. Mae’r llun uchod (diolch i John Lawson-Reay) yn dangos yr adeilad – wedi’i amgylchynu gan ffens weiren bigog – mewn cyflwr gwael cyn yr Ail Ryfel Byd, gyda tho bach yn cysgodi’r fynedfa a’r grisiau ar ochr y tir.
Mae llawer o bobl yn honni eu bod wedi gweld ysbrydion yn y goleudy neu'n agos ato. Yn 2010 gosododd perchennog y strwythur, James McAllister, ffigwr wedi'i gerflunio ar y balconi i anrhydeddu'r ysbrydion.
![]() |
![]() ![]() |