Olwyn ddŵr Pont-rhyd-y-groes
Mae’r olwyn hon mewn man lle y bu, ar un adeg, olwyn debyg a oedd yn gyrru peiriannau gwaith plwm Lefel Fawr gerllaw.
Mae ucheldiroedd Ceredigion wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o ran darparu mwynau ers miloedd o flynyddoedd. Yng Nghwmystwyth mae olion mwyngoddio o’r Oes Efydd ond erbyn heddiw olion cloddio o oes Fictoria sy’n nodweddu’r tir.
Aed ag arian o Geredigion i Lundain i fathu darnau o arian. Yn 1637 derbyniodd Thomas Bushell a oedd yn lesio cloddfeydd arian yn y sir drwydded frenhinol i fathu arian yng Nghastell Aberystwyth.
Ar un adeg roedd y rhod ddŵr bresennol ym Mhont-rhyd-y-groes yn gyrru melin lifio yn Llanafan. Gellir ei gweithio gan y pynfarch a drôi’r olwyn ddŵr a oedd yma gynt.
Mae cloddfa Lefel Fawr ar safle lle y bu’r Rhufeiniaid, yn ôl pob sôn, yn cloddio am arian. Dechreuwyd ei defnyddio drachefn tua 1700. Gwariwyd rhyw £2,000 yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf er mwyn sefydlu’r gwaith. Yn 1785 dechreuwyd agor lefel newydd (sef y lefel fawr a roddodd ei henw i’r gloddfa newydd). Estynnai, yn y pen draw, ryw 2km o dan y mynyddoedd, ar gyfer codi’r mwynau o’r ddaear yn ogystal â draenio’r cloddfeydd uwchlaw.
Ieirll Lisburne oedd y prif dirfeddiannwyr lleol yn ystod oes Fictoria. Datblygwyd sawl cloddfa leol gan The Lisburne Mines Company ar gost o £7,500. Dros 50 o flynyddoedd cynhyrchwyd mwynau gwerth £1.3m (dros £130m yn arian heddiw). Daeth y cwmni i ben yn 1893.
Gweddnewidiwyd Pont-rhyd-y-groes a phentrefi eraill yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fewnlifiad o fwynwyr. Roedd dynion, menywod a phlant yn gweithio yn y cloddfeydd.
Yn yr adeilad sydd ychydig yn uwch i fyny’r heol ac i’r gogledd o’r rhod ddŵr, roedd ysgol i blant y mwynwyr. Yn y 1840au roedd yr ysgolfeistr yn derbyn cyflog o £15 y flwyddyn gan gwmni Lisburne. Roedd tafarn y Lisburne Arms y drws nesaf iddo (gw. y llun). I fyny’r rhiw o’r rhod, roedd iard y Lefel Fawr. Dyma lle roedd y mwyn yn cael ei falu. Ar un ochr iddi roedd y Swyddfa Gyfrif lle y casglai’r gweithwyr eu cyflog..
Er na ddeallwyd yr effaith niweidiol a gâi plwm ar iechyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gofid cynyddol am lygru afonydd Ceredigion gan y cloddfeydd. Adroddodd yr Arolygydd Niwsans i Awdurdod Glanweithdra Gwledig Aberystwyth yn 1877, bod dŵr a lygrwyd trwy olchi’r mwyn yng nghloddfa Glog-fach yn cael ei ddargyfeirio tua’r gogledd i Lefel Fawr er mwyn troi’r rhod ac yna’n llifo i afon Ystwyth islaw. Yn Lefel Fawr llifai dŵr a oedd wedi’i lygru o’r ‘lloriau ysgythru’ lle y câi’r mwyn ei brosesu a byddai “deunydd solid o bob math” yn cael ei ollwng i’r afon.
Am yr enw lle:
Disodlwyd y rhyd a oedd yn croesi afon Ystwyth gan bont. Tyfodd y pentref wrth i gloddfeydd plwm agor yn yr ardal ac yn ddiweddarch yn sgil y diwydiant coedwigo. Mae’n siwr mai dynodi safle’r rhyd ar lwybr mynachod Ystrad Fflur a wnâi’r groes.
Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad a’r nodiadau am yr enw lle
Cod post: SY25 6DQ Gweld Map y Lleoliad
Gwefan ‘Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth’ – mwy am leoedd i ymweld â hwy