Pont Trefechan, Aberystwyth

Cynlluniwyd y bont, sydd â thair bwa eang, gan Syr James Szlumper Weeks ym 1886. Mae'n cludo traffig a cherddwyr dros yr afon Rheidol o ran ddeheuol Ceredigion. Prif syrfëwr weithredwr Sir Aberteifi oedd Szlumper, ac yn ddiweddarach siryf y sir. Buodd hefyd yn adeiladu rheilffyrdd gan gynnwys rheilffordd gul Cwm Rheidol, sydd bellach yn daith poblogaidd i dwristiaid o Aberystwyth i Bontarfynach.

Cafodd hen bont Trefechan ei difrodi gan yr afon yn gorlifo. Adeiladwyd y bont gynharach, gan John Nash, o gerrig ym 1797. Mae hi’n amlwg yn y llun o tua 1850, a ddangosir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gallwch weld y bont hefyd mewn llun o’r olygfa i fyny’r afon ar ein tudalen am Bier Ystwyth.

Drawing showing Pont Trefechan c.1850Roedd Stryd y Bont, sy’n parhau’r ffordd tua'r gogledd o Bont Trefechan, yn lwybr allweddol i mewn i'r dref hyd yn oed yn y Canol Oesoedd. Adlewyrchiad o hyn ydi trefniant adeiladau Stryd y Bont ar hen leiniau bwrdais (petryalau o dir ar ongl sgwâr i'r stryd).

Yn Chwefror 1963 cynhaliodd myfyrwyr prifysgol brotest yma, gan gau’r ffordd i gerbydau. Hwn oedd y protest gyntaf a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymgyrchu dros ddiogelu’r Gymraeg. Ffurfiwyd y gymdeithas ym Mhontarddulais, ger Llanelli, ym 1962 mewn ymateb i ddarlith radio gan y dramodydd Saunders Lewis ar dynged yr iaith ar ôl cyhoeddi ystadegau o gyfrifiad 1961 a ddangosai bod cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i ddim ond 26% o boblogaeth Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith, o’i phencadlys yn Aberystwyth, yn parhau i ymgyrchu dros yr iaith. Ers y 1960au mae llawer o'i aelodau wedi derbyn dedfrydau troseddol, ac mae rhai wedi gwasanaethu dedfrydau carchar, am weithredoedd o anufudd-dod sifil fel rhan o'r ymgyrch. Gellid ystyried arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fel ffrwythau gweithgaredd y gymdeithas.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button