Adfeilion Tŷ Halen, Porth Eynon, Penrhyn Gŵyr

Gower-AONB-FullAr y pentir i'r de o Borth Eynon mae adfeilion tŷ lle'r oedd halen a gynhyrchwyd yn lleol yn cael ei storio. Dyma'r gweddillion olaf o dŷ halen sydd wedi goroesi yng Nghymru.

Credir bod yr adeilad hwn wedi cael ei adeiladu yng nghanol yr 16eg ganrif. Mae cofnod ysgrifenedig ohono sy'n dyddio o 1598. Roedd halen yn nwydd gwerthfawr, a phan ymestynnwyd y tŷ halen yn yr 17eg ganrif cafodd ei gryfhau hefyd. Fe fyddai tyllau yn y waliau trwchus wedi caniatáu i amddiffynwyr saethu gynau at ladron.

Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent yr ardal yn y 1980au a'r 1990au. Daeth ei harbenigwyr i'r casgliad fod halen yn cael ei gynhyrchu drwy ddal dŵr môr mewn tair siambr fawr ar y traeth islaw'r tŷ halen. Mae rhai o waliau'r siambr wedi goroesi.

Anweddwyd y dŵr a oedd wedi'i ddal mewn padellau haearn mawr er mwyn gadael halen, a oedd yn cael ei gario i ran ogleddol y tŷ halen i'w sychu. Daeth y gwaith o gynhyrchu halen i ben yma yn yr 17eg ganrif ond parhaodd bobl i fyw yn y prif dŷ tan tua 1880. Roedd y bobl olaf i fyw yma'n rhai o bysgotwyr wystrys Porth Eynon.

Adeiladwyd morglawdd yn y 18fed ganrif mewn ymateb i erydu arfordirol. Ychwanegwyd wal newydd ar ddiwedd yr 20fed ganrif i ddiogelu'r adfail hanesyddol pwysig rhag y môr a'r tywod.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent

Map  

Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button