Tŵr Giât Cilddor, Conwy
Tŵr Giât Cilddor, Conwy
Roedd y porth, sydd ar y llwybr drwy waliau canoloesol y dref, yn giât cilddor yn wreiddiol. Roedd giatiau cilddor yn ail lwybrau bychain i mewn i drefi caregog, ac nid oeddent yn cael eu hamddiffyn mor llym â’r prif giatiau.
Adeiladwyd muriau tref Conwy yn y drydedd ganrif ar ddeg ac fe adeiladwyd dwy giât cilddor. Roedd gan y giât ar ben pellaf y cei borthcwlis bychan a drysau. Mwy na thebyg, drysau yn unig oedd gan hon, a daeth yn adnabyddus fel y Porth Bach.
Yn newydd, roedd y giât cilddor hon, mae’n debyg, yn gulach na’r hyn yr ydym yn ei weld heddiw. Nid yw’r gwaith cerrig ar y dde wrth i chi symud i lawr yn gwbl wreiddiol. Gyferbyn, fe welwch flociau cerrig yn ymwthio allan, byddai’r drws wedi cael ei osod yma.
Roedd y tŵr yn edrych allan ar y giât cilddor. Mae'r tŵr bellach yn gartref i gaffi. Roedd y tŵr hefyd yn gartref i eglwys Gatholig cyn i eglwys newydd, yn Rosemary Lane, agor ym 1915. Yn ddiweddarach roedd hefyd yn gartref i swyddfa cyfreithiwr. Roedd yr hanesydd Betty Pattinson, a fu’n gweithio yn y swyddfa, yn cofio, yn dilyn chwyldro'r Ail Ryfel Byd, pobl yn cerdded i fyny’r grisiau cerrig i dalu taliadau cynhaliaeth cynnal plant yn y tŵr. Roedd priodasau wedi chwalu a llawer o blant wedi’u geni y tu allan i briodas yn ystod neu yn fuan wedi diwedd y rhyfel.
Gyda diolch i Betty Pattinson a Llew Groom o Gymdeithas Hanesyddol Aberconwy
Cod post: LL32 8AY Map