Safle olion traed cynhanesyddol, Aberwysg
Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd heibio yn agos i'r fan lle darganfuwyd tair set o olion traed dynol cynhanesyddol (yn y llun yma) yn 1986.

Llun o olion traed cyn hanesyddol yn Aberwysg
© Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Cawsant eu gwneud gan blentyn - bachgen neu ferch – a chan ddau ddyn. Roedd y tri yn cerdded yn droednoeth.
Datgelodd dadansoddiad o ddarnau mawn a oedd ar ben yr olion traed fod y tri unigolyn hyn wedi cerdded yma o leiaf 6,200 o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Mesolithig hwyr.
Mae matog, math o gaib, (gweler y llun isaf) a ddarganfuwyd 340 metr i ffwrdd o'r olion traed yn dyddio o tua'r un adeg. Cafodd ei siapio o ddarn o gorn carw coch ac mae ganddo dwll ar gyfer handlen bren. Mae'r twll mewn sefyllfa anarferol o'i gymharu â'r ymyl miniog, gan nodi bod gan yr offeryn ddefnydd arbenigol. Efallai ei fod wedi cael ei ddefnyddio wrth gasglu anifeiliaid cregyn, fel cocos.

Llun o matog cynhanesyddol a ddarganfuwyd yn Aberwysg
© Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Pan adawodd y dynion a'r plentyn yr olion traed yn y clai, mae'n debyg eu bod yn cerdded ar draws morfa heli i gyrraedd y fflatiau llaid. Mae'n bosib bod coed fel leim, llwyfen, cyll a phinwydd wedi tyfu ar y gors.
Cafwyd olion traed anifeiliaid mesolithig yma yn ardal Aberwysg gan adar rhydwir (waders), cynfual (auroch) a cheirw. Roedd Cynfualiaid yn hynafiaid gwartheg dof heddiw a ddiflannodd yn yr 17eg ganrif.
Ychydig i'r gorllewin o safle'r olion traed, mae archeolegwyr wedi nodi olion llwybr cyn hanesyddol - cyfres 30 metr o blanciau pren. Credir bod hyn yn dyddio o'r Oes Efydd neu'r Oes Haearn, yn llawer hwyrach na'r olion traed.
Gyda diolch i Amgueddfa Cymru, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad. Ymhlith y ffynonellau mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent a 'Hanes Sir Gwent, Cyfrol 1', golygwyd gan Miranda Aldhouse-Green a Ray Howell, Gwasg Prifysgol Cymru 2004.
Gwefan Amgueddfa Cymru – Museum Wales
![]() |
![]() ![]() |