Golygfa cynhanesol o Drwyn y Fuwch

Mae’r prif ddelwedd isod yn dangos i chi sut, yn ôl pob tebyg, yr edrychai’r olygfa i'r gorllewin o Drwyn y Fuwch tua 15,000 i 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyna pryd oedd Oes y Cerrig Hwyr, neu’r cyfnod Paleolithig Uchaf. Os ydych newydd sganio’r codau QR ger Lwybr Arfordir Cymru, cerddwch ar hyd y llwybr troed o'r giât tuag at y môr i gael golwg ehangach dros y bae.

Prehistoric view over Llandudno
Yr olygfa cynhanesol © Take27 Ltd

Ar y pryd, roedd lefel y môr wedi gostwng oherwydd bod rhewlifoedd yn dal cymaint o ddŵr. Roedd gwastadedd arfordirol eang yn amgylchynu’r Gogarth ac yn ymestyn i Ynys Môn, yn y pellter. Roedd yn lle delfrydol i fyw ar gyfer y bobl a oedd wedi dechrau byw yng Nghymru yn ddiweddar.

Yn y 1870au darganfyddodd glöwr copr, o'r enw Thomas Kendrick, ên ceffyl a oedd wedi'i haddurno gan bobl 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr asgwrn yn gorwedd y tu mewn i ogof ar y Gogarth. Mae tystiolaeth arall o'r un ogof yn dweud wrthym y byddai’r trigolion yn bwyta ceirw, buail, ceffylau a morloi. Fel arfer, arddangosir yr ên yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.

Mae olion pobl ac anifeiliaid cynhanesyddol hefyd wedi cael eu darganfod ar Drwyn y Fuwch.

Current view of Great Orme Llandudno
Yr olygfa heddiw © Mick Sharp

Map

 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button