Beddrod perchnogion chwarel, Faenol, Bangor

Adeiladwyd y beddrod Fictoraidd hwn yn y 1870au ar gyfer y teulu Assheton-Smith, oedd yn berchen ar Ystâd y Faenol a chwarel lechi enfawr Dinorwig. Mae’r adeilad yn cynnwys clochdy ac yn arddangos elfennau o’r arddull gothig oedd yn ffasiynol bryd hynny. Robert Evans, cerfiwr carreg a phren, o Borthaethwy a ddarparodd yr addurniadau, ac yn wreiddiol roedd rheiliau o amgylch y beddrod.

Ymhlith y gwesteion a ymwelodd â’r beddrod roedd aelodau o Gymdeithas Ffermwyr Llaeth Prydain yn ystod taith o amgylch y fferm gartref ‘Vaynol’ (fel y’i gelwid bryd hynny) yn 1896 i archwilio da byw, gan gynnwys gwartheg o fridiau amrywiol, geifr angora a defaid pedwar-corn St Kilda.

Claddwyd Thomas Assheton-Smith, a oedd wedi datblygu'r chwareli llechi, yn 1858 yn Hampshire, lle'r oedd gan y teulu gartref arall, ond yn ddiweddarach claddwyd aelodau o'r teulu yma, gan gynnwys Capten Robert George Duff. Bu farw ar Ynys Wyth yn 1890.

Yr oedd ei fab George wedi priodi Maud Assheton-Smith a gelwid ef yn George William Duff Assheton-Smith. Bu farw George yn 1904, yn 58 oed. Cariwyd ei arch, wedi ei gorchuddio mewn sidan gwyn, o'r tŷ i'r beddrod ar ei hoff gar gyrru, wedi ei dynnu gan ddau geffyl. Côr Cadeirlan Bangor oedd yn arwain yr orymdaith mawr gan ganu emynau. Roedd yr orymdaith yn cynnwys coedwigwyr, chwarelwyr a rheolwyr chwarel, tenantiaid fferm, gweithwyr o’r cei llechi yn Y Felinheli a gweision y tŷ.

Ymhlith y perthnasau oedd Walter Warwick Vivian. Enwyd chwarel Vivian ger Llanberis ar ei ôl. Roedd George yn perthyn i’r teulu Vivian trwy briodas, a gadawodd gymynrodd o £77,000 i Walter.

Trosglwyddwyd yr ystâd i frawd iau George, Charles Gordon Duff, a newidiodd ei gyfenw i Assheton-Smith. Bu farw Charles yn Llundain ym 1914. Daeth ei arch i Fangor ar y trên ond fe'i claddwyd yng nghapel y stad o'r 16eg ganrif a ddefnyddiwyd ar gyfer claddedigaethau teuluol yn 1919 a 1940.

Mae'r coetir bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dilynwch y ddolen isod am fanylion y llwybr cylchol y gallwch ei gerdded o amgylch y goedwig.

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol – gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button