Stadiwm y Cae Ras, Wrecsam

Y stadiwm hwn yw’r maes pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Dyma leoliad gêm ryngwladol gartref gyntaf Cymru, yn 1877 yn erbyn yr Alban. Collodd Cymru 2-0.

Aerial photo of Racecourse ground in 1976
Y Cae Ras yn 1976, trwy garedigrwydd y CBHC a'ir wefan Coflein

Mae’r Cae Ras wedi bod yn gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam ers 1872, pan ffurfiwyd y clwb yn y Turf Hotel gerllaw. Yr eithriad oedd cyfnod yn yr 1880au pan chwaraeodd y clwb mewn mannau eraill i osgoi’r ffioedd uchel yr oedd perchennog y cae ar y pryd, Clwb Criced Wrecsam, yn eu mynnu. Fel y mae enw’r maes yn ei awgrymu, roedd rasio ceffylau ymhlith y gweithgareddau ar y safle yn oes Fictoria.

Cafodd y ffilm gynharaf sydd wedi goroesi o gêm bêl-droed ryngwladol ei ffilmio ar y Cae Ras pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Iwerddon yma yn 1906. Roedd y Cae Ras bryd hynny yn eiddo i Frederic W Soames, a oedd yn berchen ar fragdy yn y dref. Roedd Cwpan Elusennol Soames yn gystadleuaeth fawr i dimau yng Ngogledd Cymru a'r ardaloedd cyfagos.

Roedd Noel Soames, un o feibion Frederic, yn is-lywydd Clwb Pêl-droed Wrecsam pan fu farw yn yr Aifft ym 1916, tra’n gwasanaethu gyda’r Cheshire Yeomanry. Roedd ei frawd Arthur yn y grŵp cyntaf o awyrennau rhyfel Prydeinig i hedfan i Ffrainc, ym mis Awst 1914, a chafodd ei ladd yn 1915 tra'n arbrofi gyda bom. Mae’r ddau wedi’u henwi ar brif gofeb Rhyfel Byd Cyntaf Wrecsam.

Yn ystod y rhyfel, chwaraeodd tîm pêl-droed merched y National Shell Factory – ar safle Powell Bros ar draws y rheilffordd o’r Cae Ras – yma i godi arian ar gyfer ysbytai milwrol Wrecsam.

Mae'r stadiwm hefyd wedi cynnal gemau rygbi rhyngwladol Cymru. Yn 2009 daeth y Cae Ras yn gartref i dîm rygbi'r gynghrair y Crusaders, a oedd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn flaenorol.

Mae'r awyrlun, diolch i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y Cae Ras ym 1976 gyda’r Turf Hotel yn union wrth ei ymyl. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Ym mlynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif, dioddefodd Clwb Pêl-droed Wrecsam broblemau ariannol. Roedd cynlluniau i werthu'r tir ar gyfer adeiladu. Ym mis Gorffennaf 2011 prynodd Prifysgol Glyndŵr y stadiwm a maes hyfforddi’r clwb pêl-droed yng Ngresffordd i ddiogelu'r asedau a darparu cyfleoedd a chyfleusterau newydd i fyfyrwyr.

Defnyddir safle'r Cae Ras hefyd ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau eraill. Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, tîm pêl-droed hynaf Cymru, yn parhau i chwarae gemau cartref yma. Yn 2021 prynwyd y clwb gan ddau actor o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Cod post: LL11 2AN    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk