Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod

button-theme-canalPWMP logo

Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod

Agorodd yr adeilad hwn ym 1911 fel llyfrgell rad, diolch i rodd o £1,500 gan un o ddynion mwyaf cyfoethog America. Heddiw mae’n gartref i Amgueddfa Sir Faesyfed lle cewch weld casgliadau o wrthrychau amrywiol sy’n perthyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd y llyfrgell yn un o nifer a adeiladwyd gydag arian gan y dyngarwr Andrew Carnegie. Cafodd ei eni yn Yr Alban ym 1835 ac ymfudo wedyn i’r Unol Daleithiau lle casglodd gyfoeth mawr trwy amryw o fentrau diwydiannol. Rhoddodd lawer o’i arian at achosion da gan gynnwys llyfrgelloedd ble roedd gweithwyr yn gallu darllen llyfrau a dogfennau am ddim am y tro cyntaf.

Ar y dechrau roedd llyfrgell Llandrindod yn gartref i arddangosfa fach o bethau archeolegol o’r gaer Rufeinig gerllaw, Castell Collen. Darganfuwyd cwch boncyff o’r Canol Oesoedd fan hyn ym 1929 a ysbrydolodd Cyrnol Syr Charles Venebles-Llywelyn a Mr T P Davies i sefydlu Amgueddfa Llandrindod a Chymdeithas Sir Faesyfed. Agorodd ystafell amgueddfa newydd y llyfrgell ym 1930. Mae’r cwch boncyff, sy’n dyddio o c.1200 yn cael ei arddangos yma hyd heddiw.

Mae Cymdeithas Sir Faesyfed, a ffurfiwyd hefyd ym 1930, yn parhau gyda’i gwaith a hwythau a roddodd lawer o’r pethau sydd i’w gweld yn yr amgueddfa.

Ar ôl i’r llyfrgell symud i gyn-westy ym 1971 roedd lle i’r amgueddfa trwy’r adeilad i gyd. Enillodd statws Amgueddfa Sirol gan adnewyddu’n sylweddol oddeutu 1993, pan newidiwyd ei henw.

Mae casgliad yr amgueddfa’n cynnwys archaeoleg, daeareg, paleontoleg, celfyddyd gain a hanes cymdeithasol sy’n adrodd hynt a helynt y sir o’r cynfyd ymlaen. Un o’r pethau mwyaf hynod yn yr arddangosfa yw carreg sheela-na-gig, sef maen wedi’i gerfio gyda symbol ffrwythlondeb o’r oes cyn y Normaniaid.  Cafodd ei ddarganfod yn ystod gwaith adnewyddu yn Hen Eglwys y Plwyf.  Hefyd mae gan yr amgueddfa arddangosfa barhaol am y dyddiadurwr o oes Fictoria, Francis Kilvert.

Yn yr amgueddfa cewch weld tag adnabod (label adnabod metel) cyntaf David Richard Rogers o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw ym 1918 yn 22 oed yn y Dwyrain Canol. Roedd ei rieni’n byw yn Llanllŷr ger Llandrindod. Hefyd cewch weld croes go arbennig sy’n hanu o Ffrainc. Daeth milwr o Brydain o hyd iddi yng nghanol adfeilion eglwys ac fe ddaeth â hi adref i Gymru.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys llythyrau a chardiau post a oedd yn cael eu hanfon neu eu derbyn gan bobl leol yn ystod y rhyfel yn ogystal â dyddiaduron. Ceir dogfennau eraill yn gysylltiedig â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin a oedd yn anfon miloedd o ddynion i aros yn Llandrindod ar gyfer eu hyfforddiant. Mae’r gwrthrychau’n cynnwys cylchgronau’r Corfflu sy’n dangos hiwmor y milwyr a’u perthynas â’r dref. 

Côd Post: LD1 5DL    Map

Gwefan Amgueddfa Sir Faesyfed

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua’r de ar hyd Stryd y Deml at westy’r Metropole. Mae’r codau QR am gartref y ffoaduriaid o Wlad Belg wrth y fynedfa
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button