Olion coredau, Aberarth
Wrth ddringo o Aberarth i gyfeiriad y gogledd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a’r llanw ar drai, cewch olygfa dda o olion coredau.
Defnyddid trapiau dal pysgod sef coredau (neu gorydau) am ganrifoeddd lawer er mwyn rhwystro pysgod rhag dychwelyd i ddŵr dyfnach pan fyddai’r llanw ar drai. Mae dogfen o 1184 yn cyfeirio at goredau Aberarth ac yn nodi eu bod yn cynrychioli dull hynafol o bysgota. Mae olion y coredau hyn yn henebion cofrestredig.
Roedd o leiaf un o’r coredau yn ardal Aberaeron yn dal i gael ei defnyddio yn 1903, pan adroddodd Bwrdd Pysgodfeydd Aeron mai un drwydded gored yn unig a ddosbarthwyd ganddyn nhw.
Mewn erthygl yn y Cambrian News yn 1889 ar arferion pysgota’r cyfnod hwnnw, disgrifiwyd sut roedd y cerrig o draeth Aberarth wedi’u pentyrru ar ffurf cilgant. Roedd y ddau bigyn yn uwch i fyny’r traeth. Roedd yr adran ganol yn is i lawr ac yn cynnwys llifddor lle roedd y dŵr yn llifo drwodd. Byddai’r eogiaid yn nofio dros y gored ar lanw uchel ond yn cael eu dal wrth i’r llanw droi. Roedd pedwar neu bum ‘perchen’ cored yn yr ardal ac yn talu bob i £2 am drwydded.
Yn 1893 cyhuddwyd David Davies neu Dai Catti, pysgotwr o Aberarth, gan y bwrdd o ddal eogiaid mewn cored heb drwydded. Gollyngwyd yr achos ar bwynt technegol.
Roedd llawer o goredau eraill ar yr arfordir hwn. Dirwywyd gweithiwr lleol yn 1880 am gymryd eog o gored Cilgwgan (hanner ffordd rhwng Aberarth ac Aberaeron).
Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad