Gweddillion Castell y Fflint

button-theme-crime button-theme-history-for-all-W

BSL-USED-HERE---logo

Hwn oedd y cyntaf o’r cestyll a adeiladwyd yng Ngogledd Cymru ar orchmynion y Brenin Edward I i gryfhau rheolaeth Lloegr. Ceir rhai o'r golygfeydd gorau o'r adfeilion yn eu cyd-destun daearyddol o Lwybr Arfordir Cymru i'r de-ddwyrain o'r castell ac i'r gogledd-orllewin ohono – yr olygfan a ddefnyddiodd JMW Turner ar gyfer ei baentiad o godiad yr haul yn y 1830au (dde).

Dechreuwyd adeiladu’r castell ym 1277. Adeiladwyd tref newydd gaerog y Fflint hefyd, a ddaeth yn y pen draw yn ganolfan weinyddol Sir y Fflint. flint_castle_painting_jmw_turnerCollodd adeiladu’r castell fomentwm ar ôl i Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, arwyddo cytundeb gydag Edward ym mis Tachwedd 1277, ond aed ati i gwblhau’r gwaith ar ôl i’r Cymry ddechrau gwrthryfel ym mis Mawrth 1282 a oedd yn cynnwys ymosodiadau ar gastell a thref y Fflint.

Roedd y castell, a orffennwyd i raddau helaeth ym 1284, yn cynnwys y Tŵr Mawr (donjon) y gallwch chi ei weld heddiw. Roedd y twr yn dalach yn wreiddiol ac roedd ganddo ei ffos a'i bont godi ei hun i gadw’r bobl y tu mewn rhag niwed pe bai ymosodwyr yn torri i mewn i'r castell.

Daethpwyd â'r Brenin Richard II i'r castell ym mis Awst 1399 ar ôl iddo gael ei gipio ger Bae Colwyn. Yma cyfarfu â Henry Bolingbroke, a ddaeth yn Frenin Harri IV pan gafodd Richard ei ddiorseddi ym mis Medi. Bu farw Richard ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Mae’r cyfarfod rhwng y ddau yn rhan o ddrama Shakespeare The Tragedy of King Richard the Second. Ymddangosodd y llun a Richard yn chwifio’n ddiobeithiol o’r castell (a ddangosir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn llyfrau Thomas Pennant am ei deithiau Cymreig yn y 18fed ganrif.

flint_richard_ii_in_captivityDefnyddiodd brenhinwyr y castell yn ystod y Rhyfel Cartref ond bu iddynt ildio i'r Seneddwyr ym 1646. Ar ôl y rhyfel difrodwyd y castell i atal defnydd amddiffynnol yn y dyfodol. Daeth hyn hefyd â'i ddefnydd fel carchar i ben. Adeiladwyd carchar newydd yn gyflym yn y dref, ger y llys sy’n dyddio o'r 17eg ganrif ac yn dal i sefyll.

Defnyddiwyd y safle eto ar gyfer carcharorion o 1785, pan adeiladwyd carchar sirol ym meili’r castell (rhwng y waliau allanol a'r waliau mewnol). Ym 1840 adroddodd y wasg ei fod yn dal 13 o garcharorion gan gynnwys Edward Jones, a arhosai i gael ei ddienyddio am lofruddio ciper (gamekeeper). Yma ym 1861 carcharwyd Sarah Edwards, 77 oed, o Dreffynnon, wedi'i chondemnio i farwolaeth am ladd ei gŵr eiddil ac anghenus Thomas, 80 oed, trwy dorri ei gorn gwddf. Cafodd ohiriad (“respite”) swyddogol o’i dedfryd ym mis Awst 1861.

Gwelwyd mwy o ddefnydd milwrol ar y safle cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1910 cymeradwyodd y Swyddfa Ryfel bryniant y castell gan Gymdeithas Diriogaethol Sir y Fflint, er mwyn i’r 5ed Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig symud eu pencadlys yma o Benarlâg.

Heddiw mae adfeilion y castell yng ngofal Cadw. Mae mynediad am ddim.

Cod post: CH6 5PF    Map

Castell y Fflint ar wefan Cadw

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button