Delw Syr Rhys ap Thomas, Caerfyrddin
Delw Syr Rhys ap Thomas, Eglwys San Pedr, Caerfyrddin
Gorwedd delwau o Syr Rhys ap Thomas a’i wraig y Foneddiges Janet ar gistfaen addurnedig yn Eglwys San Pedr. Roedd Syr Rhys yn ŵr pwysig yn ne-orllewin Cymru cyn ac ar ôl Brwydr Bosworth. Bu iddo ran allweddol ym muddugoliaeth Harri Tudur. Oni bai i Syr Rhys fentro newid plaid, ni fyddai brenhinlin y Tuduriaid wedi cael ei thraed tani; a byddai hanes Prydain wedi dilyn trywydd gwahanol.
Etifeddodd ei dad Thomas ap Gruffudd arglwyddiaeth Dinefwr a phriodi ag Elizabeth a hanai o linach tywysogion Cymru. Ganwyd Rhys yn 1449 ac etifeddu’r stad am fod ei ddau frawd hŷn wedi marw o flaen Thomas. (Dynoda “ap” fod Rhys yn fab i Thomas.)
Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau llwyddodd Rhys i gadw gafael ar ei diroedd helaeth. Daeth yn brif ustus De Cymru. Er iddo anwybyddu cais gan Rhisiart III ar iddo anfon ei fab ifanc i’w lys yn wystl er mwyn sicrhau ei deyrngarwch i’r brenin, ni chafodd ei gosbi. Yn debyg i lawer o’r Lancastriaid dadrithiwyd Rhys gan weithredoedd y brenin.
Roedd Rhys ynghyd â swyddogion eraill yng Nghymru i rwystro gorymdaith byddin fechan Harri i herio’r brenin yn 1485, pan ddychwelodd Harri o’i alltudiaeth yn Ffrainc. Ond llwyddodd Rhys, yn hytrach, i ddenu nifer fawr o ddynion wrth iddo deithio trwy Gymru via Aberhonddu i ymuno â Harri.
Crybwyllir enw Rhys ymysg nifer o wŷr eraill yr honnir iddyn nhw roi’r ergyd farwol i Rhisart y Trydydd. Roedd cefnogaeth Rhys, cyn ac yn ystod y frwydr, yn dyngedfennol. Ei wobr oedd derbyn rhagor o diroedd a rhagor o rym yng Nghymru. Bu’n ganolog i lwyddiant amryw ymgyrchoedd pwysig yn ystod teyrnasiad Harri’r Seithfed. Wedi hynny bu’n cynorthwyo Harri’r Wythfed.
Bu farw Rhys yn 1525 a’i gladdu yn eglwys y Brodyr Llwydion yng Nghaerfyrddin. Symudwyd ei fedd i eglwys San Pedr pan ddiddymwyd y brodordy yn 1538. Mae’r ddelw yn ei ddangos yn ei arfwisg, ei darian a’i helm wrth ei ben a chi wrth ei draed.
Bu farw y Foneddiges Janet, ail wraig Rhys, yn 1535. Mae ei cherflun hi ar betryal llai nag eiddo Syr Rhys sy’n awgrymu iddo gael ei greu ar gyfer bedd ar wahan.
Ar hyd ochrau’r bedd mae ffigyrau cerfiedig, rhai ohonyn nhw’n perthyn i gyfnod adnewyddu’r beddfaen yn y 1860au. Mae olion o’r paent llachar a fu’n addurno’r bedd gwreiddiol wedi goroesi yn ogystal.
Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne
Côd Post: SA31 1GW Map