Golygfan paentiad gan Richard Wilson, Nantlle

Mae’r olygfa tuag at yr Wyddfa ar draws Llyn Nantlle Uchaf o’r cyffiniau yma wedi denu llawer o artistiaid, gan cynnwys Richard Wilson. Mae ei baentiad o'r olygfa, a wnaed yng nghanol y 1760au, i'w weld yma. Yn y pellter canol mae bwlch mynydd Drws-y-coed, sy'n gorwedd rhwng Mynydd Mawr (698 metr) a'r Garn (633).

Copy of Nantlle painting by Richard WilsonGaned Richard (1713-1782) ym Mhenegoes, ger Machynlleth, a’i fagu yn Yr Wyddgrug, lle’r oedd gwreiddiau teulu ei fam. Ar ôl iddo astudio paentio yn Llundain, dechreuodd beintio portreadau. Canolbwyntiodd fwyfwy ar baentiadau tirluniau tra'n byw yn yr Eidal. Dychwelodd i Lundain yn 1757, gan ddod yn ddiweddarach yn un o sylfaenwyr yr Academi Frenhinol. Ymddeolodd i Golomendy, Yr Wyddgrug, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn Yr Wyddgrug.

Pan welson nhw baentiadau Richard o dirluniau Cymreig yn y 1760au, sylweddolodd pobl yn Llundain a hoffai celf bod yna leoedd yng Nghymru a oedd yr un mor gyffrous i arlunwyr ag unrhyw le arall. Roedd cleientiaid cyfoethog Richard yn cynnwys rhai o dras Gymreig. Weithiau byddai'n aildrefnu agweddau o’r tirwedd i gyfleu'r stori yr oedd am ei hadrodd. Ysbrydolodd ei waith lawer o artistiaid – gan gynnwys JMW Turner a John Constable – i beintio’r hyn a welsant ym Mhrydain, yn hytrach na dibynnu ar dir mawr Ewrop i ddarparu tirweddau i’w darlunio.

Er mwyn creu ei lun o’r olygfa ar draws Llyn Nantlle Uchaf, byddai Richard wedi sefyll ar y bala – llain o dir rhwng y dau lyn. Cafodd y llyn isaf ei ddraenio yn y 1890au i helpu’r diwydiant chwareli llechi. Gallwch weld llun ohono ar ein tudalen we am Bryn Deulyn, tŷ sydd wedi ei enwi ar ôl y ddau lyn.

Mae'r bont ffordd yma yn croesi'r afon Llyfni lle, yn gynharach, bu cwrs dŵr byr o'r llyn uchaf i'r isaf.

Map

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour