Melin Yr Orsedd, Yr Orsedd
Melin Yr Orsedd, Yr Orsedd
Ni fyddai unrhyw un sy'n gweld y felin ŷd hon o'r 16eg ganrif o'r ffordd yn synnu o ddysgu bod yr arlunydd JMW Turner wedi darlunio'r adeilad yn 1795. Mwynhewch yr olygfa hyfryd o'r felin o'r ffordd. Nid oes mynediad cyhoeddus i'r tir.
Adeiladwyd y felin gyntaf yma yn 1544 er mwyn i bobl y pentrefi cyfagos felino eu grawn. Cyn hynny roedden nhw'n defnyddio Melin Marford, sy'n dal i fodoli ar ochr arall y ffordd ac a oedd yn eiddo i'r Goron.
Disodlwyd adeilad 1544 yn 1588 gan y strwythur sy'n dal i fod yn gartref i beirianwaith y felin (ar y chwith wrth i chi edrych o'r ffordd). Mae’r hen lun cerdyn post yn dangos ceffyl a chert yn sefyll tu allan i’r rhan yna o’r adeilad.
Sylwch mai dŵr tan y rhod sy’n pweru’r olwyn fawr. Roedd hyn yn gymharol anghyffredin yng Nghymru, lle'r oedd tir bryniog fel arfer yn galluogi gosod olwynion dros y rhod – sy'n fwy effeithlon.
Yn 1661 estynnwyd y felin trwy ychwanegu'r hyn sydd bellach yn rhan ganolog yr adeilad. Yr oedd Syr John Trevor, o Neuadd Trefalun, yn ddiweddar wedi dod yn berchennog ar felinau Yr Orsedd a Marford. Ychwanegwyd trydydd estyniad (ar y dde) yn y 1820au.
Boddodd un o weithwyr y felin yma ym mis Gorffennaf 1895, chwe mis ar ôl dechrau gweithio i'r melinydd Thomas Lewis. Nid oedd nant y felin ond tua 45cm o ddyfnder ar yr adeg y boddodd Sarah Jane Howell, 19 oed, ynddi. Roedd hi wedi dioddef o ffitiau ers plentyndod. Yn ei chwest, ni allai ei mam awgrymu unrhyw reswm dros hunanladdiad Sarah.
Prynwyd y felin yn 1973 gan Mike Kilgannon, a adferodd yr adeilad a'r peiriannau. Agorodd y felin i'r cyhoedd ar y penwythnosau a gwerthwyd blawd wedi'i falu ar y safle. Aeth y felin ar werth yn 2011, ac fe’i prynwyd gan berchnogion newydd yn 2013.
Cod post: LL12 0HH Map