Y Pier Brenhinol, Aberystwyth

Agorwyd y pier ym 1865 gan Gwmni Promenâd Pier Aberystwyth. Y dylunydd oedd Eugenius Birch. Roedd yn 244 metr o hyd, a’r cost oedd £13,600.

Mae'r darlun o tua 1865 yn dangos y pier newydd yma. Fe'i welir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Drawing of the new pier c.1865Drylliwyd rhan o’r pier, 30 metr o hyd, gan storm ym 1866. Gwerthodd y cwmni y pier ac fe adgyweiriwyd a helaethwyd y strwythur gan y perchennog newydd. Ailagorodd y pier i'r cyhoedd ym 1872, bellach yn brolio ystafell de uwch y môr a pherfformiadau gan fandiau cerdd.

Ymn 1896 agorodd y Prince of Wales bafiliwn o haearn a gwydr lle y cwrddai’r pier y tir. Roedd y pafiliwn yn darparu adloniant ar gyfer hyd at 3,000 o wylwyr ar y tro.

Yn yr 20fed ganrif, caewyd rhan o'r pier i'r cyhoedd yn dilyn difrod pellach, ond daliai’r pafiliwn i agor fel arfer. Ym 1979 fe'i prynwyd gan Don Leisure Ltd, a wariodd mwy na £500,000 ar welliannau yn y 1980au. Yn y pen draw, ail-agorwyd y pier ei hun i ymwelwyr.

Heddiw, mae'r pafiliwn yn cynnal amrywiaeth o atyniadau yn cynnwys tafarn, bwyty, ystafell snwcer a chlwb nos.

Ar adegau gellir clywed clebran y ddrudwen o dan llawr y pier, wrth i filoedd o’r adar glwydo ar y gwaith haearn islaw.

Côd post: SY23 2AZ    Map

Gwefan y Pier Brenhinol

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button