Safle tloty Bangor

Roedd tloty Bangor ar y llethr lle saif Home Bargains heddiw. Roedd pobl dlawd yn byw yno ac yn gorfod gweithio am eu cynhaliaeth.

Aerial photo of Bangor workhouse in 1963Bu plwyfi lleol yn helpu eu tlodion tan i’r gyfraith newid yn 1834, ac wedyn bu plwyfi’n grwpio gyda’i gilydd mewn “Undebau”. Pan hysbysebodd Undeb Bangor a Biwmares am feistr a metron cyntaf y tloty yn 1845, cynigiodd gyflog blynyddol o £80. Yn 1853 roedd gan y tloty 78 o garcharorion, plant yn bennaf.

I ddathlu Nadolig 1869 ciniawodd y preswylwyr ar gig eidion rhost a phwdin eirin.

Roedd y gymuned leol wedi rhoi ffrwythau, byns, fferins a choed Nadolig mewn potiau. Yn 1905 mwynhaodd breswylwyr daith i Barron Hill, Biwmares, trwy garedigrwydd y Fonesig Magdalen Bulkeley. Buont yn cerdded o amgylch y tir neu'n gwrando ar gramoffon ar y lawnt. Yn 1906 gwrthododd dau garcharor oedrannus, o Lanllechid a Phorthaethwy, “yn llwyr adael y tŷ ac ail-ymuno â’u gwragedd”!

Caniatawyd iddynt aros, gyda’u meibion yn cyfrannu at eu cynhaliaeth. Gofynnodd un ddynes o Ynys Môn i’r tloty atal ei gŵr rhag gadael, gan ei fod yn “well ei fyd yno”.

Er gwaethaf ei addewid iddi y gallai fyw ar ddau bryd o fwyd y dydd, dywedodd “na allai ei gadw”. Dywedodd y dyn aflonyddus: “Ni fyddai fy ngwraig gyntaf byth yn gwneud y fath beth i mi.”

Aerial photo of Bangor workhouse in 1945Yn 1909 adroddodd papurau newydd fod “un o gowbois Buffalo Bill” wedi rhyddhau ei hun o glafdy’r tloty. Roedd Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill wedi ymweld â Gogledd Cymru ym 1904.

Yn 1899 adroddwyd bod cinio Sul yn y tloty yn cynnwys darn o fara sych a “màs di-chwaeth” o bwdin reis “fel y'i gelwir”.

Yn 1889 gorfodwyd i’r meistr a’r feistres ymddiswyddo ar ol iddo yfed yn ormodol; o fewn misoedd fe gollon nhw eu heiddo mewn tân yn elusandai Bangor, lle roedd ganddynt storfa dros dro. Diswyddwyd holl swyddogion y tloty yn 1890 oherwydd eu ffraeo. 

Gofynnwyd i'r swyddog meddygol a'r nyrs ymddiswyddo yn 1906 yn dilyn cwynion. Yn 1909 gofynnwyd i ddwy nyrs arall ymddiswyddo, ac ni ellid cael pobl yn eu lle oherwydd bod yr ymgeiswyr yn cael eu digalonni gan gyflwr clafdy’r tloty a’r niwed y gallai gweithio yno ei wneud i’w gyrfaon. Yn 1910 condemniodd pensaer y bwrdd llywodraeth leol y clafdy “o’r top i’r gwaelod”.

Prynwyd safle ar draws y ffordd o stad y Penrhyn am £2,000 ar gyfer clafdy newydd, a elwid yn ddiweddarach yn Ysbyty Dewi Sant. Yn 1914 fe'i defnyddiwyd gan y Swyddfa Ryfel fel ysbyty sylfaenol ar gyfer yr holl Adran orllewinol. Cyrhaeddodd y milwyr clwyfedig cyntaf ym mis Hydref 1914. Yn 1923 trosglwyddwyd carcharorion y tloty i’r ysbyty a chytunwyd i gau’r tloty.

Dangosir yr awyrluniau yma trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru. Mae'r llun uchaf yn dangos y tloty (hanner isaf y llun) a'r ysgol gyfagos yn 1963. Mae'r llun arall, a dynnwyd yn 1945, yn dangos y tloty (ar y dde ar y gwaelod) a'r ysbyty (chwith uchaf).

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, a Llywodraeth Cymru

Cod post: LL57 4SG    Gweld map y lleoliad