Safle baddonau ac Ysgol y Sir, Caernarfon

Safle baddonau ac Ysgol y Sir, Caernarfon

Mae gwesty Caer Menai ac adeiladau eraill ar ochr orllewinol Stryd yr Eglwys ar safle baddondy i’r dref. Pan greodd y Brenin Edward I y dref gaerog ar ddiwedd y 13eg ganrif, roedd ochr orllewinol gyfan Stryd yr Eglwys, ar wahân i'r eglwys ei hun, wedi'i murio i ffwrdd fel gerddi preifat. Roeddant yn cael ei hadnabod ers canrifoedd fel Gerddi’r Frenhines Eleanor, ar ôl gwraig Edward I. Hi oedd yn cael defnydd personol o'r gerddi, a oedd yn cynnwys ffynhonnau dŵr croyw.

Yn 1823 cododd Iarll Uxbridge, tirfeddiannwr lleol o bwys, adeilad y Baddonau Cyhoeddus mawr ar y safle ar gost o £ 10,000 - mwy na £1.2m yn arian heddiw. Roedd pympiau yn y tŵr canoloesol yn gefn yr adeilad (rhan o waliau'r dref) yn cyflenwi dŵr i'r baddonau ar y llawr gwaelod. Yn y lloriau uchod roedd byrddau biliards a neuadd gyngerdd a theatr. Hysbysebwyd llety yn Plas Bowman gerllaw fel delfrydol ar gyfer yr anabl oherwydd eu hagosrwydd at y baddonau.

Yn nhymor yr haf 1854, cost baddon oer oedd 1 swllt, baddon cynnes 2s, cawod wyth geiniog a chwe cheiniog am gael baddon nofio. Hysbysebwyd baddondy gan y perchennog Mrs Griffiths fel hyn: “rhoi’r sylw craff i sicrhau y glendid uchaf posib”.

Cafodd yr adeilad ei addasu'n ddiweddarach fel cartref newydd i Sefydliad Hyfforddi Athrawon Caernarfon ('Carnarvon Training Institution'). Sefydlwyd y coleg gan Bwyllgor Addysg Cymru, a ddatganodd ym 1846 ei nod i greu sefydliadau hyfforddi athrawon yng Ngogledd a De Cymru i wella'r cyflenwad o athrawon i “ysgolion cenedlaethol” (ysgolion eglwysig i blant o deuluoedd tlawd).

Yn 1891 llosgiwyd yr ystafell fwyta a'r ystafell gysgu. Yn ffodus roedd y myfyrwyr i ffwrdd ar gyfer y Nadolig. Fe wnaeth ymateb sydyn y frigâd dân atal y fflamau rhag achosi ffrwydriad yn y labordy cemeg. Ailagorodd y coleg yn ddiweddarach ym Mangor.

Agorodd Ysgol Sir newydd Caernarfon mewn adeilad dros dro yma ym mis Medi 1894. Roedd yn darparu addysg ganolradd i blant waeth beth oedd modd eu rhieni. Roedd adrannau ar wahân ar gyfer bechgyn a merched. Symudodd yr ysgol i adeilad pwrpasol yn 1900.

Gyda diolch i KF Banholzer, awdur y llyfr ‘Within Old Caernarfon’s Town Walls', ac i Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1SW    Map