Safle chwareli 'marmor du', Y Barri

button-theme-prehistoric-more

Cafodd peth o'r garreg a gloddiwyd yn yr ardal hon ei sgleinio i ffurfio 'marmor du' addurniadol.

Photo of paving stones at CosmestonAr waelod clogwyni'r môr a elwir yn Bull Cliff mae gwelyau llwyd tywyll/du o strata Liasig Glas sy'n cynnwys nifer o ffosilau o wystrys bach a deufalfiau eraill. Cloddwyd y strata hyn am gerrig adeiladu mewn gwahanol leoliadau ym Morgannwg dros gyfnod hir. Defnyddiodd y Rhufeiniaid y garreg, fel y gwelir yng ngweddillion adeilad o’r 3edd ganrif yn Y Knap. Mae'n debyg i'r garreg yno ddod o harbwr Y Barri.

Mae hollti'r garreg yn llorweddol ar hyd y ffosiliau wystrys yn cynhyrchu carreg gnapiog, sy'n ddelfrydol ar gyfer lloriau. Gellir gweld enghreifftiau ym Mhentref Canoloesol Cosmeston o'r 13eg ganrif ac mewn eglwysi lleol (gweler y llun uchaf).

Defnyddiwyd y garreg wedi ei sgleinio, er nad yn wir farmor, ar gyfer cerrig beddau wedi'u gosod i mewn i loriau eglwysi. Ceir cofebau wal o'r garreg caboledig mewn eglwysi lleol, gan gynnwys yr un a welir isod yn Eglwys Sant Cadog yn Nhregatwg.

Photo of black marble memorial in Cadoxton churchAr ôl taith drwy'r ardal yn 1780, nododd y saer maen lleol Edward Williams ar "fro fach ddymunol iawn, lle rhed afon sy'n disgyn i'r môr yn Bullcliff ... Ar lan y môr ger aber yr afon hon mae llawer iawn o farmor du da." Mae'n fwyaf adnabyddus fel Iolo Morgannwg, sylfaenydd Gorsedd y Beirdd a ffugiwr dogfennau hynafiaethol!

Yn un o'i lyfrau nodiadau yn 1789 nododd feddfaen llawr caboledig o farmor du Bull Cliff yn eglwys plwyf Sant Andras (St Andrews Major). Dyma'r arysgrif hynod: “Here lyeth the body of John Gibbon James buried the 14 of August 1601 and Margaret Mathew his wife buried the 8 of January a.n.do 1631 he aged 99 she aged 124.”  Mae'n ymddangos i'r garreg hon gael ei symud neu ei gorchuddio mewn adferiadau diweddarach, gan na ellir ei gweld mwyach.

Gyda diolch i Michael Statham, o Fforwm Cerrig Cymru, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: CF62 6QP    Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button