Safle gwersyll gwyliau Butlin, Ynys y Barri
Safle gwersyll gwyliau Butlin, Ynys y Barri
Roedd y rhan helaethaf o benrhyn Pwynt Nel unwaith yn wersyll Butlin ble cafodd deuluoedd dirifedi eu gwyliau haf. Mae’r llun o’r awyr, drwy ganiatâd y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y gwersyll yn 1974. Mae o gasgliad Aerofilms Comisiwn Henebion Cymru.
Dyfodiad y rheilffordd yn 1896 alluogodd dyfiant Ynys y Barri gan gynnig dihangfa o gymoedd diwydiannol De Cymru i’r boblogaeth. Cafodd Syr Billy Butlin ei ysbrydoli yma i greu gwersylloedd gwyliau lle y gallai teuluoedd cyffredin fwynhau gwyliau glan y môr.
Agorodd ei wersyll cyntaf yn 1936 yn Skegness. Yn fuan iawn daeth ei wersylloedd yn enwog am eu diddanwyr “Redcoats” a ddiddanai yn eu cotiau coch a ysbrydolwyd gan farchoglu heddlu Canada. Roeddynt am i deuluoedd gymryd rhan drwy gystadlaethau fel ‘pengliniau cnyciog’ a ‘neiniau cyfareddol’.
Hwn oedd y gwersyll Butlin olaf i agor, yn 1966. Roedd yn wersyll i 7,000 ymwelydd yr wythnos. Arhosai’r ymwelwyr mewn rhesi hir o gabanau (“chalets”) gyda’r un pris am bopeth ac a welir yn y llun.
Roedd y cyfleusterau yn cynnwys pyllau nofio cynnes y tu mewn a’r tu allan, car cebl, rheilffordd ar raddfa fach a llefydd i weithgareddau fel dawnsio a tenis bwrdd. Ceid tai bwyta, bariau trwyddedig a hyd yn oed siop sglodion a physgod. Gallai ymwelwyr ddod am y dydd am bris.
Er mai’r rheilffyrdd achosodd dwf y campau, datblygiad arall a achosodd eu difancoll, sef teithiau awyr rhad. Gwnaeth perchnogion newydd newidiadau i wersyll Ynys y Barri i enyn diddordeb newydd, ond cau bu rhaid ar ddiwedd tymor 1996. Daeth peth o’r tir yn dir agored cyhoeddus a defnyddiwyd peth ar gyfer tai.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: CF62 5DA Gweld Map Lleoliad
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |