Safle’r Pafiliwn, Caernarfon

slate-plaque

Mae’r llyfrgell ar y safle ble’r oedd Pafiliwn Caernarfon, adeilad a oedd yn cynnal digwyddiadau mawr. Roedd Winston Churchill a David Lloyd George ymhlith y gwleidyddion a siaradodd yno.

Drawing of Caernarfon Pavilion when newCodwyd yr adeilad mewn pryd ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaernarfon yn 1877. Cynhelir yr Eisteddfod mewn man gwahanol bob haf, a dychwelwodd chwe gwaith wedi 1877 i’r Pafiliwn hwn. Cyfrannodd pwyllgor lleol yr Eisteddfod £800 – sef cost y pafiliwn dros dro arferol – tuag at gost yr adeilad parhaol o £7,000. Cododd y gymuned leol y swm o £7,000 mewn cwta 5 mis gan ofyn i drigolion gyfrannu £10 yr un. Bu’r pafiliwn yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1877, 1889, 1886, 1894, 1906, 1921 a 1935.

Codwyd yr adeilad gan Gwmni Pafiliwn Caernarfon. Ymgymerwyd â’r gwaith o adeiladau’r Pafiliwn gan gontractwyr o Lerpwl, sef Issac Dixon a’i gwmni. Cyflogwyd pobl leol i wneud y gwaith.  Mae’n anhygoel meddwl fod adeilad a oedd yn mesur dau gant o droedfeddi o hyd a chan troedfedd o led wedi cael ei adeiladau mewn cyfnod mor fyr a phedair wythnos ar ddeg.  Roedd y pafiliwn yn gallu eistedd cynulleidfa o tua 7,000.

Haearn oedd y prif ddefnydd allanol ond defnyddiwyd pren yn ogystal i addurno’r tu mewn. Goleuwyd yr adeilad gan 700 o chwistrellau (jets) nwy, system a oedd yn soffistigedig iawn yn ystod y cyfnod yma. Serch hynny roedd yn ddrud i’w gynnal gan ei fod yn costio 20 swllt yr awr. Roedd peiriant awyru ar y to 54 troedfedd (16 metr) uwchben y ddaear. Mae'r llun yn dangos yr adeilad yn fuan ar ôl ei gwblhau.

Un o lawer o ddiddanwyr a berfformiodd yn y Pafiliwn oedd y cerddwr rhaffau Ffrengig Charles Blondin. Yn 1878, fe syfrdanodd y tyrfaoedd â champau gwifrau uchel fel sefyll ar ei ben, summersaults, coginio omelet ar stôf symudol a chario dyn ar ei gefn! Enwodd chwarelwyr llechi Gwynedd ddyfeisiadau rhaffau awyr y chwareli yn “Blondins” er anrhydedd iddo – mae un yn cael ei arddangos yn Llanberis.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914, troswyd y Pafiliwn yn farics i filwyr gwirfoddol o ardal eang. Defnyddiodd y llywodraeth y Pafiliwn yn yr Ail Ryfel Byd a'i gadw am ddegawd wedi hynny. Dirywiodd y ffabrig maes o law, a dymchwelwyd yr adeilad yn 1961.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 1AS    Map

Gwefan Llyfrgell Caernarfon