Safle Baddonau Caerdydd
Ar un adeg safai Baddonau Caerdydd ar y triongl o dir rhwng Churchill Way, Guildford Crescent a'r rheilffordd. Roedd y cyfadeilad gerllaw camlas gyflenwi'r dociau, a oedd hefyd yn cyflenwi'r baddonau â dŵr ffres o afon Taf.
Mae’r llun uchaf, diolch i Lyfrgelloedd Caerdydd, yn dangos yr olygfa tua’r de ar hyd Churchill Way heddiw, gyda thrên stêm yn y pellter. Mae’r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos adeiladau’r baddonau ym mis Mawrth 1948, pan oedd gwaith ar y gweill i orchuddio camlas gyflenwi’r dociau.
Ffurfiwyd cwmni yn y 1860au cynnar i adeiladu'r baddonau. Roedd ei gyfarwyddwyr yn cynnwys perchennog pyllau glo, James Harvey Insole, y mae ei gartref crand Insole Court yn Llandaf bellach ar agor i ymwelwyr. Cyfarwyddwr arall oedd John Stuart Corbett, asiant i Stad Bute. Ymddiriedolwyr yr Arglwydd Bute (ynghyd â Rheilffordd y Taff Vale) roddodd y tir ar gyfer y baddonau a chytunwyd y gallai dŵr o gamlas gyflenwi'r dociau gael ei ddefnyddio am ddim.
Agorodd y baddondai yn 1862. Aeth y dŵr drwy welyau ffilter cyn llifo’n araf drwy’r pyllau nofio. Roedd baddonau nofio ar wahân ar gyfer cwsmeriaid dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth, baddon Twrcaidd (yn cynnwys aer cynnes a stêm), baddonau preifat, baddonau dŵr poeth a champfa. Er mwyn gwella mynediad, adeiladwyd pont dros y gamlas gyflenwi o Wellington Terrace, i'r gorllewin.
Prynodd Corfforaeth Caerdydd y baddonau yn 1873, gan sicrhau eu bod yn cael eu hachub a'u gwella.
Roedd un cynghorydd wedi dadlau bod angen gwersi nofio ar ieuenctid Caerdydd cyn iddynt ddod yn forwyr. Dywedodd un arall fod baddonau cyhoeddus yn bwysig i iechyd y dosbarthiadau gweithiol yn arbennig, a'i bod yn ffaith bod angen mwy o fwyd ar blant budr na rhai glân! Yn 1884 cynghorodd rheithgor cwest y dylai’r gorfforaeth wneud gwelliannau diogelwch ar ôl i ddyn ifanc heini o'r enw Albert Wills foddi yn un o'r pyllau.
Mewn ymateb, penododd y gorfforaeth “nofiwr medrus” i fod yn gyfrifol am y baddonau yn yr haf, a gosodwyd bwiau achub yn y pwll a chadwyn o amgylch yr ymylon. Caeodd y baddonau yn yr 1980au ac adeiladwyd gwesty yma, sef gwesty ibis Caerdydd bellach.
Cod post: CF10 2HA Map