Safle ysbyty bwthyn Llandudno

Safle ysbyty bwthyn Llandudno

Photo of Sarah Nicol Memorial Cottage Hospital, Llandudno

Agorwyd ysbyty bwthyn 30-gwely Llandudno ym 1885 ar gornel Trinity Avenue a Caroline Road. Cafodd ei arloesi gan Dr James Nicol a'i wraig Sarah Ann. Bu farw Sarah Ann ym mis Chwefror 1884 yn eu cartref, sef Warwick House yn Church Walks.

Ariannwyd Ysbyty Bwthyn Coffa Sarah Nicol gan roddion cyhoeddus. Y Foneddiges Augusta Mostyn oedd 'arolygydd benywaidd' y bwrdd rheoli.

Roedd math unigryw o yswiriant iechyd: roedd gan bob tanysgrifiwr blynyddol hawl i enwebu claf i aros am bedair wythnos yn rhad ac am ddim, ar gyfer pob gini a roddodd y tanysgrifiwr. Yn y dyddiau cynnar, byddai Gorymdeithiau Calan Mai yn dargyfeirio heibio'r ysbyty er mwyn i’r cleifion eu gweld.

Ym 1904 cafodd dau Americanwr Brodorol eu trin yma wrth ymweld â Llandudno gyda Buffalo Bill’s Wild West Show. Ni chofnodwyd eu henwau. Roedden nhw'n 25 a 26 oed. Roedd y dyn iau yn dioddef o niwmonia. Roedd yr hynaf wedi torri ei goes dde. Fe'u dangosir gyda staff yn y llun isod. Y metron ar y pryd oedd Mary Ann Wright ac mae'n debyg mai hi yw'r ffigwr sy’n eistedd.

Photo of staff and patients at Llandudno cottage hospitalDaeth damweiniau rheilffordd â sawl claf i’r ysbyty, gan gynnwys John Savage. Ei waith oedd yn cynnal a chadw’r traciau, a bu farw yma o’i anafiadau ar ôl i drên ei daro i'r dwyrain o Fochdre ym 1904. Ym 1905 roedd gweithiwr ar wibdaith cwmni'n paratoi i ddychwelyd i Brighouse, Swydd Efrog, pan ymchwyddodd y dorf yng ngorsaf Llandudno tuag at trên a oedd yn cyrraedd, gan ei wthio oddi ar y platfform. Cafodd ei lusgo, ei wyneb i lawr, gan y trên a bu farw yma dridiau yn ddiweddarach, gan adael gweddw a phedwar o blant.

Bu farw'r Rhingyll Trympedwr Walton, 36, o Magnelau Swydd Amwythig a Swydd Stafford, yn yr ysbyty ar ôl slaesio’i wddf ym 1894. Roedd wedi dioddef iselder wrth aros yng ngwersyll y fyddin yn Deganwy oherwydd ym 1891 cafodd ef a chyd-filwr eu hamgylchynu gan y llanw yn aber Conwy. Roedd ei gymrawd wedi boddi.

Ym 1916 fe wellodd chwarelwr yn yr ysbyty ar ôl i'w droed gael ei falu yn chwarel Rhiwledyn. Honnodd ei gyflogwr ei fod wedi anafu ei hun yn fwriadol er mwyn osgoi gorfodaeth y fyddin.

Ni fyddai’r ‘Sarah Nicol’ yn trin afiechydon heintus, felly adeiladodd yr awdurdod lleol ysbyty ynysu ym Maesdu, sydd bellach yn anecs i Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Agorodd yr ysbyty cyffredinol ym 1939. Ddegawd yn ddiweddarach, daeth y ‘Sarah Nicol’ yn ganolfan ieuenctid lwyddiannus. Aeth yr adeilad yn adfail cyn iddo gael ei ddymchwel a'i ddisodli gan dai yn 2020.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn, ac i Pauline Dodd

Cod post: LL30 2NQ    Map