Safle Pont Tŷ'r Tollau, Caerdydd

button-theme-canalSafle Pont Tŷ'r Tollau, Caerdydd

Roedd Pont Tŷ'r Tollau yn croesi Camlas Morgannwg ger y fan hon nes i'r gamlas gael ei llenwi yn y 1950au. Tynnwyd y llun isod – a ddangosir yma trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd – gan Jonas Watson yn ystod ymweliad brenhinol ym 1896.

cardiff_custom_house_bridgeArweiniai’r bont o Heol Eglwys Fair a ffyrdd eraill i'r chwith at Dŷ'r Tollau, allan o'r llun ar y dde. Roedd glanfeydd ar hyd yr ochr honno o'r gamlas. Mae Tŷ'r Tollau yn dal i sefyll. Fe'i hadeiladwyd ym 1845 ac fe'i disodlwyd ym 1898 gan adeilad newydd yn nociau Caerdydd, a oedd erbyn hynny yn delio gyda llawer mwy o nwyddau nag yr oedd y gamlas.

Yn y llun, mae'r gamlas yn troi i'r dde wrth ymyl y bont. Mae’r cysgod ar y dde o dan y bont yn dangos lle mae'r llwybr tynnu yn troi'r gornel. 

Ym mlaen y llyn mae cychod bach mewn glanfa fach. Byddai certiau ar gael yn yr ardal leol. Yn 1891, roedd cert yn symud tuag yn ôl tuag at gwch glo pan lithrodd olwyn dros yr ymyl, a syrthiodd y cert a’r ceffyl i'r dŵr. Bu i’r ceffyl foddi. 

Yng nghanol y llun mae Gwesty'r Terminus, ar gornel Heol Eglwys Fair a Lôn y Felin. Roedd yr ardal hon yn fan cyfarfod tramffyrdd o bedwar cyfeiriad. Roedd un llwybr tram yn croesi Pont Tŷ'r Tollau ac yn parhau tua'r dwyrain ar hyd Adam Street.

Cod post: CF10 1GD    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button