Safle ysgol i’r mud a’r byddar, Abertawe
Roedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru ar gyfer y mud a’r byddar ychydig islaw ochr ddwyreiniol y Promenade. Mae’r llun, gyda chaniatâd Archifau Gorllewin Morganng, yn dangos maint yr adeilad.
Dechreuodd y Cambrian Institution for the Deaf and Dumb addysgu plant yn Aberystwyth yn 1847. Symudodd yr ysgol breswyl i Picton Place, Abertawe, yn 1850. Roedd yn cael ei noddi gan garedigion a dyngarwyr o bob rhan o Gymru.
Ychwanegwyd “Royal” at enw’r ysgol yn 1851 pan ddaeth Tywysog Cymru yn noddwr. Cynigiwyd £250 gan y Frenhines Fictoria yn gyfnewid am gynnal ysgolor yn y sefydliad.
Ym mis Chwefror 1851 cafwyd pedwar ar ddeg o ymgeiswyr ar gyfer chwe lle ychwanegol ac o ganlyniad cynhaliwyd etholiad gan y sefydliad. Hannah Jones, 13 oed, o Tredelerch oedd yn fuddugol. Bechgyn rhwng deg a deuddeg oed o Gaergybi, Casnewydd, Llangatwg a Chas-gwent a dderbyniodd y pedwar lle nesaf. Y chweched i’w derbyn oedd merch naw oed o Gaergybi. Ni chafodd yr un o’r tri ymgeisydd o Abertawe eu hethol – barnwyd bod y lleill yn achosion mwy haeddiannol.
Yn 1851 prynodd rhai o wragedd Abertawe ddillad ar gyfer un disgybl am na allai ei rieni fforddio’i ddilladu. O ganlyniad, arbedwyd ef rhag cael ei yrru o’r ysgol, yn unol â’r rheolau.
Yn 1854 apeliodd y sefydliad am gyllid er mwyn codi adeilad newydd. Mynegodd y cadeirydd fod plant byddar nad oedden nhw’n derbyn triniaeth feddygol ac addysg yn bodoli mewn diflastod a diymadferthedd llwyr a’u bod o ran eu cyflwr fawr gwell na thwpsod. Wedi iddyn nhw gael addysg gallen nhw ennill bywoliaeth, addoli Duw a ffurfio canllawiau moesol.
Roedd cyfarfod blynyddol y sefydliad yn gyfle i ddangos i noddwyr sut roedd y plant yn elwa. Yn 1914, yn ôl adroddiad yn y wasg, roedd rhai o’r plant wedi cyflwyno cerdd trwy “arwyddo – iaith naturiol y mud a’r byddar” (rhagredegydd Iaith Arwyddion Prydain).
Yn 1916 roedd 85 o ddisgyblion yn yr ysgol a 539 wedi’u haddysgu yno er ei sefydlu. Roedd y merched yn dysgu gwinïo ac yn gwneud llawer o’u dillad eu hunain yn ogystal â chlytio crysau a chrysau nos y bechgyn! Roedden nhw wedi anfon menig a sgarffiau at filwyr a oedd yn gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr. Roedd rhai yn dysgu sut i ddefnyddio peiriannau gwinïo a pheiriannau gweu.
Wedi bomio Abertawe adeg yr Ail Ryfel Byd, nododd Louis Bayliss, prifathro’r sefydliad, fod ei ddisgyblion wedi dychwelyd adref - yn ddiogel, ond o dipyn i beth yn colli eu lleferydd a’u hiaith. Aflwyddiannus fu ei ymdrechion i ailagor yr ysgol mewn man lle nad oedd bomio’n fygythiad, am fod yr holl adeiladau addas yng Nghymru naill ai “wedi eu meddiannu gan y fyddin neu gan facwîs o Loegr”.
Yn 1950 agorwyd ysgol newydd ar gyfer y byddar yn Llandrindod.
Diolch i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA1 6EW Map