Safle Ysgol Doctor Dwylan

Agorwyd ysgol anenwadol (Frytanaidd) yma ar dir fferm Dwylan Bellaf ym mis Hydref 1845. Canlyniad oedd hyn i ymdrechion y Dr. Thomas Williams ac eraill a roddodd gais llwyddiannus gerbron am grant gan The British and Foreign School Society i godi ysgol ar ei dir.

Deallwyd bod ysgol eglwysig i’w chodi yn y plwyf yn fuan ac nid oedd yr Anghydffurfwyr niferus lleol am i’w plant gael eu dylanwadu gan Eglwys Loegr.

Yn yr adroddiad am agoriad swyddogol yr ysgol honnwyd bod lle ynddi i 200 o blant, ac yn yr Arolwg boddhaol cyntaf yn Rhagfyr 1846 nodir fod 23 merch a 58 bachgen ar y llyfrau. Roedd yr athro yn byw gyferbyn yn Tŷ’r Ysgol.

Ychydig a wyddom am ‘Ysgol Dr Dwylan’ neu’r ‘Ysgol Bellaf’ fel y’i gelwid, dim ond i’w hoes ddod i ben tua diwedd y ganrif pan godwyd ysgol newydd ar dir fferm Tŷ Newydd, Sarn Bach.

Gyda diolch i Diogelu Enwau Llanengan

Cod post: LL573 7LL     Map