Safle cartref plentyndod Emma Hamilton, Penarlâg

button-theme-womenSafle cartref plentyndod Emma Hamilton, Penarlâg

Magwyd Emma Hamilton, meistres yr Arglwydd Nelson a mam ei ferch, mewn bwthyn to gwellt a safai yma. Roedd y bwthyn yn ffinio â'r Fox and Grapes, fel y gwelwch yn yr hen luniau. Cafodd ei ddymchwel yn 1896.

hawarden_e_hamilton_cottage

Ganed Emma yn Ness, Cilgwri, i Henry a Mary Lyon ym mis Ebrill 1765. Bu Henry farw ddau fis yn ddiweddarach a symudodd Emma gyda Mary i Benarlâg, lle roedd ei nain, Sarah Kidd, yn byw. Wrth ddechrau gwasanaeth domestig, bu Emma yn gweithio am gyfnod i'r llawfeddyg o Gaer, Leigh Thomas, yn Church House.

Ar ôl symud i Lundain, cafodd waith mewn puteindy o safon uchel. Arweiniodd hynny at berthynas â phendefig, ond fe adawodd y pendefig hi unwaith iddi ddod yn feichiog gyda'u merch. Peintiodd yr arlunydd George Romney hi droeon.

Daeth perthynas arall, â Charles Greville, i ben pan drosglwyddodd Charles hi i'w ewythr ef, Syr William Hamilton! Priododd Emma a William yn 1791. Roedd yn berchen ar lawer o’r tir o amgylch Aberdaugleddau ac ef oedd llysgennad Prydain i Napoli, sydd bellach yn yr Eidal. Yn Napoli y cyfarfu Emma â Horatio Nelson. Cytunodd y ddau ddyn ac Emma i fyw gyda'i gilydd yn Napoli.

hawarden_emma_hamiltonGwrthododd yr Arglwydd Nelson ganiatáu i'w wraig Frances symud yno. Dros y blynyddoedd dilynol, bu’r berthynas rhwng y Fonesig Hamilton â’r Arglwydd Nelson yn destun llawer o glecs! Cawsant eu ddiarddel gan rai pobl, yn enwedig ar ôl iddo wahanu oddi wrth ei wraig waradwyddus.

hawarden_emma_hamliton_cottage

Rhoddodd Emma enedigaeth i Horatia, merch yr Arglwydd Nelson, yn 1801, dwy flynedd cyn i'w gŵr farw. Cyn marw yng ngwasanaeth y brenin a'r wlad ym Mrwydr Trafalgar yn 1805, newidiodd yr Arglwydd Nelson ei ewyllys i ddweud bod yn rhaid i’r brenin a’r wlad ddarparu ar gyfer y Fonesig Hamilton pe bai yntau'n marw.

Fodd bynnag, gwrthodwyd pledion Emma am arian a chasglodd dyledion mawr wrth geisio cynnal ei safle yn y gymdeithas. Ar ôl cael ei charcharu am fethdaliad, symudodd gyda Horatia i Calais, lle bu farw yn 1815.

Cod post: CH5 3DH    Map

button_tour_hawarden-customs-E Navigation previous buttonNavigation next button