Safle glanio HMS Thetis, Traeth Bychan
Safle glanio HMS Thetis, Traeth Bychan
Ym Medi 1939 daethpwyd â llong danfor newydd, HMS Thetis, i'r lan yn Nhraeth Bychan wedi iddi suddo. Fe gymerodd sawl wythnos i dynnu cyrff y 99 o forwyr oedd wedi marw y tu mewn i’r llong danfor.
Adeiladwyd y llong danfor gan Cammell Laird o Benbedw. Aeth allan ar y môr ar 1 Mehefin 1939 am ddiwrnod o brofion. Roedd mwy na 100 o bobl ar fwrdd y llong, tua dwywaith y nifer yn y criw arferol ar gyfer llong o'r fath. Roedd rhai yn swyddogion mewn llongau tanfor eraill a oedd am weld y dechnoleg ddiweddaraf drostynt eu hunain. Ar fwrdd y llong hefyd roedd peirianwyr o Cammell Laird.
Cyfunodd rhai mân wallau i achosi i'r llong danfor suddo ar ei hymgais gyntaf i blymio ym Mae Lerpwl. Dim ond y starn y gellid ei godi uwchben yr wyneb. Arhosodd yr agoriad dianc o dan y dŵr. Dim ond pedwar dyn a lwyddodd i ddianc o'r llong danfor. Parhaodd yr anlwc wythnosau’n ddiweddarach, pan fu farw deifiwr a oedd yn rhan o’r ymgyrch achub o’r “bends” ar ôl iddo fynd i drafferthion a dychwelyd i’r wyneb yn rhy gyflym.
Codwyd y llong gan rig achub gan ddefnyddio ceblau 15cm o drwch a'i symud yn araf i'r traeth yma. Parodd anghenion rhyfel i’r Thetis gael ei hailadeiladu yn hytrach na'i dileu. Gyda’r enw newydd HMS Thunderbolt, suddodd nifer o longau’r gelyn cyn cael ei dryllio gan ffrwydron ym Môr y Canoldir yn 1943.
Tynnwyd y llun o Thetis ar Draeth Bychan gan Harry Rogers Jones, ac fe'i dangosir yma trwy garedigrwydd David Rogers Jones. Daw'r llun o'r llong danfor wrth ochr agerlong o gasgliad y diweddar James Roberts.
Cod post: LL73 8PN Map
![]() |
![]() ![]() |