Salfe terfynell rhaffordd mwyn haearn, Llanberis
Salfe terfynell rhaffordd mwyn haearn, Llanberis
Ar un adeg roedd y llecyn tawel hwn wrth ymyl Llyn Padarn yn derfynell lle trosglwyddwyd mwyn haearn o rhaffordd (aerial ropeway) i wagenni rheilffordd.
Ym 1907, buddsoddodd Syr Alfred Hickman (cyn AS Wolverhampton) arian i ddatblygu hen loddfa mwyn haearn ger Betws Garmon. Roedd yn berchen ar gwmni dur yn Swydd Stafford. Cyflogwyd tua 50 o ddynion yn y gloddfa y rhan fwyaf o’r blynyddoedd. Roedd allbwn blynyddol y gloddfa yn fwy na 10,000 tunnell yn ei blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol.
Er bod rheilffordd gul yn cysylltu Betws Garmon â'r prif rwydwaith rheilffyrdd yn Ninas (i'r de o Gaernarfon), adeiladodd cwmni Syr Alfred rhaffordd - tebyg i linell ceir cebl - i gario'r mwyn dros Gefn Du i seidin rheilffordd ger Llyn Padarn.
Mae'r lluniau'n dangos y twr lle cafodd y bwcedi eu gwagio a'u troi rownd i ddychwelyd i'r gloddfa. Gallwch weld un o'r bwcedi a rhai o gwageni (“hopper wagons”) y cwmni ei hun, y dadlwythwyd y mwyn ohonynt trwy agor drysau yn y llawr.
Roedd y rhaffordd c.4.5km (3 milltir) o hyd. Wedi'i adeiladu gan Ropeways Ltd, gallai gario 133 o fwcedi yr awr.
Un noson ym 1908 fe wnaeth chwarelwr gymeryd lifft adref i Lanberis mewn bwced wag. Neidiodd i mewn lle roedd y rhaffordd yn agos at y ddaear ger Betws Garmon. Nid oedd wedi cyrraedd Llanberis cyn i hwter y gloddfa swnio a trowyd mecanwaith y rhaffordd i ffwrdd – gan ei adael i dreulio’r nos yn uchel i fyny yn yr awyr!
Ar ôl ychydig o flynyddoedd llwyddiannus, doedd dim digon o fwyn haearn o fewn cyrraedd hawdd erbyn 1913 i gynnal y busnes a chaewyd y cyfan. Ailagorodd y gloddfa dros dro yn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan amharwyd ar fewnforion mwyn. Ar hyd llwybr y haffordd mae olion rhai o seiliau'r tyrau a oedd yn cynnal y rhaff.
Gyda diolch i Gareth Roberts o Fenter Fachwen
![]() |
![]() ![]() |