Safle protest y Siartwyr, Casnewydd

button-theme-crime Safle protest y Siartwyr, yn Commercial Street

Ar Orffennaf y 4yd 1839 ymgynullodd tua 5,000 o Siartwyr o flaen Gwesty’r Westgate gan fynnu rhyddhad eu cyd brotestwyr a arestiwyd. Heb wybod iddynt roedd maer y dre wedi gosod 30 o filwyr yn y gwesty. Yn sydyn fe agorwyd y ffenestri ac fe saethwyd i’r criw. Lladdwyd o leiaf 22. Fe symudodd yr awdurdodau'r cyrff yn gyflym gan gladdu 10 yn ddirgel mewn beddau tu allan i Gadeirlan Woolos.

Roedd y Siartwyr yn gefnogwyr o Siarter y Bobl, 1838. Roedd y siarter yn ymgyrch Brydeinig ac yn galw am: pleidlais i bob dyn; cyflog i bob Aelod Seneddol; pob etholaeth i fod o’r un maint o ran nifer pleidleiswyr; dileu’r rheol y dylai pob AS fod yn berchennog eiddo; ac ethol Aelodau Seneddol yn flynyddol. Gwireddwyd pob un o’r rhain, heblaw ethol blynyddol, o fewn canrif. Ond yn 1839 roedd y sefydliad gwleidyddol, wedi ei ddychryn a’i gynhyrfu gan y chwildro Ffrengig, yn ddrwgdybus iawn o’r Siartwyr.

Old photo of Westgate Hotel

Ar ôl terfysg pum diwrnod yn haf 1839 yn Llanidloes, Powys, fe garcharwyd neu alltudiwyd 33 o Siartwyr.

Rhoddwyd arweinwyr protest Casnewydd ar brawf. Un o’r rhai ar y rheithgor oedd landlord y King's Head yn y Fenni. Dedfrydwyd John Frost, cyn faer Casnewydd, i’w ddienyddio tra cafodd John Lovell ei alltudio i Awstralia ar ôl pledio’n euog. Ond cafwyd deiseb arwyddwyd gan fwy na tair miliwn o bobl dros Brydain gyfan tros drugaredd, a chymudwyd y gosb gan anfon pob un i Awstralia. Cafodd John bardwn yn 1856 a daeth yn ôl i Brydain ac fe fu farw yn 1877 yn Stapleton, Bryste.

Cuddiodd un arall o’r arweinwyr, Zephania Williams, yn ôl pob sôn ar ôl y brotest yn Nhŷ Meddyg, yng Nghaerffili, cyn cael ei arestio. Ei frawd yng nghyfraith oedd John Llewelyn, sef meddyg cymwysedig cyntaf Caerffili. Ymfudodd Joan, gwraig Zephania, i Awstralia i ymuno ag ef yn 1854.

Enwyd gwesty’r Westgate ar ôl mynedfa ganol oesol i’r dref fu’n sefyll yma tan yr adeiladwyd y gwesty yn y ddeunawfed ganrif. Codwyd yr adeilad cyfredol yn yr 1880au a’i gwelir ar y dde yn y llun o ddechrau’r ugeinfed ganrif. Caewyd y gwesty tua 2002 ond mae’r llawr isaf yn dal mewn defnydd gan wahanol fân-werthwr.

Cod post: NP20 1JN     Gweld Map Lleoliad

Heroes and Villains Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button