Safle Gwersyll Carcharorion rhyfel, Nefyn
Safle Gwersyll Carcharorion rhyfel, Nefyn
Mae tai Glan Pwll yn sefyll ar safle hen wersyll lle cadwyd carcharorion rhyfel yn ystod y 1940au. Yr unig dŷ yn y cyffiniau ar y pryd oedd Ty’n y Pwll.
Tuag at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, anfonwyd llawer o garcharorion Eidalaidd ac Almaenig i ardaloedd gwledig i weithio ar ffermydd. Roedd gwersyll Nefyn yn gartref i garcharorion Almaenig. Symudodd tua 40 o Almaenwyr i Ynys Môn ym mis Mawrth 1948, ar ôl treulio'r ddwy flynedd flaenorol yn Nefyn. Tra yn Nefyn roedd llawer wedi gwneud ffrindiau yn yr ardal, a rhai wedi dewis ymsefydlu yng Nghymru. Sefydlodd un cyn-garcharor, Siegfried Nierada, y garej ar draws y ffordd o safle gwersyll Glan y Pwll.
Roedd rhai o'r carcharorion Almaenig yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg ac yn y diwedd yn gallu sgwrsio yn Gymraeg. Ar ffermydd lleol, Cymraeg oedd yr iaith gyntaf, ac weithiau yr unig iaith.
Mewn cyfarfod ffarwel i’r carcharorion yng Nghapel Soar Nefyn yn 1948, darllenodd prif swyddog carcharorion yr Almaen, Dr Schmidt, ddatganiad yn Gymraeg. Medrai siarad a chanu yn Gymraeg. Dywedodd y byddai’r ffordd yr oedd y trigolion lleol wedi rhoi lle yn eu cartrefi i’r carcharorion yn “arwain at well dealltwriaeth rhwng ein gwledydd”.
Yn 2021 roedd Guto Williams yn cofio fod dynion o’r gwersyll yn dod i fferm ei rieni, Hirdre Fawr, mewn lori er mwyn codi tatws bob blwyddyn. Byddent yn cysgu yn y llofft stabl ac yn bwyta yn y ffermdy fel aelodau o'r teulu. Roeddent wedi golchi eu dillad eu hunain ar y Sul a'u hongian ar lein ddillad y fferm. Dywedodd ei dad fod y carcharorion Almaenig yn gweithio'n galetach na carcharorion Eidalaidd a oedd hefyd yn dod i'r fferm – mae’n debyg mai o’r gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel Eidalaidd yn Sarn yr oeddent hwy wedi dod.
Arhosodd Karl, sef un o'r Almaenwyr a oedd wedi gweithio ar y fferm , yn yr ardal a phriodi Jean, dynes leol. Dychwelodd un arall i'r Almaen ac anfon cerdyn a llythyr at y teulu bob Nadolig hyd weddill ei oes - a byddai Siegfried Nierada yn ei gyfieithu.
With thanks to Guto Williams and the Welsh Government, ac i Morus Dafydd o AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Cod post: LL53 6EG Map