Safle cartref y Dywysoges Lilian, Abertawe

button-theme-womenSafle cartref y Dywysoges Lilian, Abertawe

Bu Lillian May Davies yn byw yn ystod ei phlentyntod mewn tŷ teras yn Stryd yr Ardd. Ystyrid y tai yn ‘slym’ ac cawsant eu dymchwel amsair maith yn ôl. Ar y safle heddiw saif mynedfa deheuol Canolfan Siopa’r Quadrant.

Ganed Lillian yn Abertawe yn 1915, yn ferch i löwr, William, a Gwladys Mary (Curran gynt), gweithwraig mewn siop. Byddai Lillian yn helpu ei thad ar ei stondin ym Marchnad Abertawe. Yn 16 oed aeth i Lundain i fod yn fodel byd ffasiwn, ac ymddangosodd mewn cylchgronau fel Vogue. Yna datblygodd yn gantores a dawnswraig, a newidiodd ei henw i Lilian.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd mewn ffatri ac mewn ysbyty ar gyfer milwyr a anafwyd. Yn 1943 cwrddodd Lilian â’r Tywysog Bertil o Sweden yn Llundain. Roedd Bertil yn rhy agos at yr orsedd I briodi Lillian, felly buon nhw’n cyd-fyw nes priodi yn 1976. Cafodd Lilian y teitl Ei Mawrhydi Brenhinol Y Dywysoges Lilian, Duges Halland.

Bu farw Lilian ar Fawrth 10ed 2013. Darlledwyd ei hangladd ar deledu Sweden. Mae darlun ohoni’n hongian yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.

Gyda diolch i Paulette Pelosi, o Archif Menywod Cymru

Cod post : SA1 3AD     Map

Gwefan Canolfan Siopa’r Quadrant