Safle Gwesty’r Orsaf, Caergybi

sign-out

Mae Tŷ Stena yn meddiannu safle Gwesty'r Orsaf, yn y llun isod. Codwyd yr adeilad mawreddog hwn gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) i gymryd lle'r Royal Hotel, yr oedd Rheilffordd Caer a Chaergybi wedi'i gaffael ym 1850 fel yr Eryr a'r Plentyn, a adeiladwyd tua 1800.

photo_of_station_hotelDyfarnwyd contract gwerth £64,807 ar gyfer yr orsaf a'r gwesty ym 1877 i Messrs J Parnell & Sons. Agorwyd y cyfleusterau newydd, ynghyd â gwelliannau i'r harbwr, gan Dywysog Cymru ar 17 Mehefin 1880. Cyrhaeddodd Gaergybi am 8.30 am, brecwast yn y gwesty, ac ar ôl gwahanol ffurfioldebau aeth ar fwrdd stemar LNWR newydd, Lily. Gyda gwylwyr ar ochrau'r harbwr a'r stemar wedi'u gwisgo â baneri, pasiodd Lily allan o'r harbwr i saliwtiaid llongau rhyfel yn y bae. Ar ôl i'r Tywysog ddychwelyd, cafodd cinio ei weini i bron i 1,000 o westeion yn y sied nwyddau allforio (Terminal One erbyn hyn), a oedd wedi'i drawsnewid yn bafiliwn ar gyfer yr achlysur.

photo_of_station_clockRoedd gan y gwesty 75 o ystafelloedd a 60 o staff. Gallai gwesteion hyd yn oed fanteisio ar gwrs golff 18 twll y gwesty. Gosodwyd y cloc mawr a welir yn y llun i goffáu ymweliad y Tywysog yn ardal gylchdroi'r orsaf, yn wynebu'r môr. Mae'r cloc bellach ar flaen Tŷ Stena.

Gyda gwladoli rheilffyrdd wedi'r Ail Ryfel Byd, trosglwyddwyd gwesty'r orsaf i Gomisiwn Trafnidiaeth Prydain, a werthodd gwrs golff y gwesty ym mis Mehefin 1950 am £9,000 i Glwb Golff Caergybi.

O gyflwyno’r llongau post Cambria a Hibernia yn 1948, a oedd a chabanau cysgu a cyfleusterau bwyta, caewyd y gwesty yn 1951. Y rheolwr olaf oedd Miss Thomson, a fu'n gwasanaethu yno ers blynyddoedd lawer. Defnyddiwyd yr adeilad fel swyddfeydd rheilffordd, gan ddelio â thocynnau fferi Sealink, tan y 1970au. Fe'i dymchwelwyd yn 1979.

Yn 1990 gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer "canolfan i deithwyr" gwerth £3m ar y safle, a hyrwyddwyd gan Sealink Harbours Ltd, Rheilffyrdd Prydain a Chyngor Bwrdeistref Ynys Môn. Y nod oedd darparu cyfleusterau modern i deithwyr, canolfan gynadledda a swyddfeydd ar gyfer rheoli harbwr. Cynhwyswyd pont ar draws y rheilffordd i ganol y dref. Heddiw mae'r adeilad yn cael ei alw'n Tŷ Stena ac mae'n cynnwys swyddfeydd harbwr Caergybi.

Gyda diolch i'r Capten Wyn Parry, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL65 1DQ    Gwld Map Lleoliad